ystod y chwarter canrif diwethaf iddo gymryd poen i ddeall safonau'r Brifysgol a'r dadeni dysg, er eu bod yn taro'n drwm yn erbyn y math o ganu a roes iddo ef ei safle fel bardd flynyddoedd ynghynt. Eto, dylid cofio, wedi tymor byr y cystadlu brwd, na bu barddoni ond hobi wrth bleser iddo; a chanai'n rhy fynych i fynegi teimlad y foment heb fynd ati wedyn i loywi arddull a chrisialu'r syniad mewn mynegiant coeth a chynnil. Cwyna ei hun, weithiau, oblegyd hynny, ond yr oedd er hynny'n wir awenydd yn yr ystyr ei fod yn byw'n feunyddiol ynghanol gwrthrychau meddwl a chalon y bardd—sef harddwch llun a lliw, gwedd a syniad, serch, llawenydd, ofn a gofid, natur yn ci moddau o olau a chysgod, haul a niwl, nos a dydd; ac yr oedd tueddfryd naturiol ei feddwl, ei fywyd, a'i bregethu'n llawn o'r gyfriniaeth sylfaenol sy'n eiddo'r gwir fardd.
I'r rhai nas clywodd ni rydd pregethau'r gyfrol hon syniad digonol am dano fel pregethwr. Dangosant ei ddull o gyfleu'r Efengyl ond nid ei rym wrth ei thraddodi; ac o flaen dim pregethwr ydoedd, a phregethwr nodedig iawn hefyd.
Yr oedd yn bersonoliaeth hawddgar eithriadol—ei wyneb fel bore o Fai, a'i wên yn dynerwch a dwyster ac ireidd-dra, ac nid amlygai awgrym o hunanoldeb ucheldrem meistr y gynulleidfa. Meddai ar lais godidog, yr oedd ynddo accn gras, drwynol, a dyncrai'n felyster pur ar dro, a phan wresogai dôi mellt i'w lygaid ac angerdd anorthrech i'w leferydd, ac yr oedd yntau a'i wrandawyr rywle ar eu ffordd at "ddôr tangnefedd Iôr" ar yr adegau mawr hynny. Dechreuodd ei weinidogaeth yng nghyfnod y bardd-bregethwr yng Nghymru, a gwnaeth yntau ddefnydd helaeth o destunau ffansiol, ond hyd yn oed y pryd hwnnw, ymgadwai rhag pregethu'n farddonllyd, ac un rheswm am hynny oedd ei fod yn gyfrinydd wrth natur, a'i gyfriniaeth yn cynnwys ffydd eithriadol mewn gweddi a phrofiad ysbrydol. Cadwai hynny ef rhag colli uniongyrchedd apêl