Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/120

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A OES GENNYM NEGES:

ANERCHIAD CADAIR CYMANFA MORGANNWG, MAI 28, 1924

MAE dyletswyddau'r gweinidog yn amlach nag erioed, ond ei brif waith o hyd yw pregethu. Dyma un o brif—ffyrdd Duw at galon dyn,—dyma un o brif redwelïau yr Efengyl at fywyd y byd. Gorchymyn y Meistr oedd Ewch a phregethwch." Dywedodd un cyfaill yng ngwres un o gyfarfodydd y Diwygiad. "Ni bydd eisiau ychwaneg o bregethu." Atebwyd ef gan hen frawd: "Pa beth a ddywedodd y Meistr Nid yw'r gorchymyn wedi ei alw yn ôl. "Pa fodd y clywant heb bregethwr? Rhaid pregethu. Gwaith lled ddigalon ydyw heddyw o lawer safbwynt. "It is a sorry work" (Dr. Glover). Yng nghanol llif o fateroliaeth, hawdd torri calon. Gyda dacaroldeb yn tyfu yn grystyn amdanom, hawdd yw ildio, neu galedu, er hyn oll—rhaid pregethu! "A gwae fydd i mi, oni phregethaf yr Efengyl." Dyma un o'r cyfryngau hanfodol i ddiogelu ein cenedl, a'r ddynoliaeth i ddaioni, a chariad a phurdeb a Duw. Peidier a phregethu, a dyna'r maes yn rhydd i bob bwystfil.

Fe ddichon bod yn ein gwlad fach ni, ar rai adegau, ormod o bregethu, mewn ambell Gyfarfod Pregethu, ac ambell Gymanfa, nes mynd yn fath o loddest feddyliol a chnawdol. Eithr mwy yw'r perigl, yn awr o gyfeiriad arall, sef y duedd i wneud i ffwrdd â phregethu. Bron nad yw ambell eglwys yn fodlon ar unrhyw beth yn lle pregeth, megis cyfarfod adrodd, perfformio llyfr, organ recital, Sul o ganu—gan adael y bregeth o'r neilltu,—yna'r bregeth pan na fydd dim arall wrth law. Credaf yn fawr