newyddwyd y Festri, a chafwyd capel newydd yn 1889 i eistedd mil yn hwylus. Cynyddai'r gynulleidfa a daeth benllanw arni yn Niwygiad 1904, pryd y rhifai ymhell dros y saith cant. Ffurfiwyd Eglwys a chodwyd capel yng Ngodre'r Graig, ac o hynny tan 1927, pryd y rhoes ei ofal heibio, parhaodd y Pant-teg yn gynullfan pobloedd.
Yn ystod ei weinidogaeth faith yno gwelodd gyfnewidiadau mawr—un o'r pennaf oedd cynnwrf y Mudiad Llafur. Gweithwyr oedd cryfder ei eglwys, a chafodd llu ohonynt eu tanio gan yr ysbryd gwerinol, ac ni fynnent liniaru eu ffydd newydd hyd yn oed yn y capel. Magesid y gweinidog yn nhraddodiadau Rhyddfrydiaeth y ganrif ddiwethaf, ac yn honno y mynnai'r hen weithwyr hefyd aros, ond bu cofio tymor byr, digalon, ei brentisiaeth yntau fel glöwr yn ddoethineb iddo ar ambell awr pan oedd trydan yn awyrgylch y cwrdd eglwys yr adeg honno, ac er cefnu o rai ar y capel a chrefydd, cadwyd yr heddwch a pharhaodd dylanwad ei bregethu efengylaidd i gadw mwy na chyflog ac oriau gwaith yn niddordeb y lliaws.
Daeth y Rhyfel Mawr i fwrw'r ymgyrch Lafur i'r cysgod. a rhoi llwyddiant anarferol i gymoedd y glo. Credai yntau, fel y mwyafrif mawr, mai rhyfela oedd yr unig foddion i'w ddewis tan yr amgylchiadau. Yn ei Anerchiad ar Yr Eglwys a Rhyfel, a roes i gyfarfod Heddwch Undeb yr Annibynwyr yng Nghaernarfon yn 1930 dywed:—
Dylwn, yn y fan yma, roddi gair o gyffes, sef i minnau, fel llawer eraill, gredu nad oedd modd osgoi'r rhyfel ddiweddaf; ein bod ynghanol trobwll nad oedd modd dyfod allan ohono ond drwy frwydro am ein bywyd. Ond cyn bod ei hanner trosodd, yr oeddwn am ei hatal, a threfnu amodau heddwch yn hytrach na pharhau i ladd a dinistrio. Gwelais ein bod allan i goncro yn hytrach nag amddiffyn y gwan, a gwelais fod difrod rhyfel tu hwnt i bob dirnadaeth. Gŵyr y rhai a wrandawai arnaf yn fy eglwys mai fy sylw mynych oedd: "Dim rhyfel byth eto, nac anadliad o'i phlaid byth mwy Pechadur edifeiriol sy'n siarad—un â'i wers wedi ei serio â thân yn ei galon; a dylai fod wedi ei serio felly yng nghalon yr Eglwys, a'r wladwriaeth, ac yn enwedig yng nghalon a chydwybod pob Cristion dan y nef. Dim rhyfel byth eto!