Yn ystod gaeaf 1923-4 ymwelodd â'r Wladfa Gymreig, ar gais ei enwad yn bennaf, a chafodd y Gwladfawyr yn eu plith dalp o Gymro pur, a'i leferydd iddynt yn atgofus, a'i efengyl yn llawn o awelon bryniau Cymru. Ysgrifennodd helaeth am y daith i bapur lleol Cwm Tawe,— y Llais Llafur, a darlithiodd lawer drwy Gymru ar yr ymweliad.
Bu'n siarad a phregethu ar lwyfan yr Undeb, a rhoes ei anerchiad o'r Gadair ym Machynlleth yn 1928, ar Yr Antur Ysbrydol yn llawn o'i dlysineb cynnil a'i ddoniau cyfriniol. Darlithiodd lawer ar destunau fel Emanuel, Hiraethog; Dewi Sant; Anne Griffiths; Watcyn Wyn; Dyfed; Y Greal Sanctaidd ac Ar y Môr.
Ysgrifennodd lawer i'r 'Geninen' (fe gofir yn arbennig am ei ysgrif wych ar Twm o'r Nant yng nghyfrol 1902), a chyhoeddiadau'r enwad, a chyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth yn 1896, o dan yr enw, Bore Bywyd, a golygodd gyfrol goffa ei gyfaill, y Parch. D. Stanley Jones, ynghyd â chyfrol fechan goffa i Llaethferch, yr adroddwraig o Godre'r Graig.
Treuliodd dros bymtheg mlynedd ar hugain yn y Pant-teg, yn yr un eglwys, ac ni bu llawer o ddigwyddiadau cyffrous yn ei hanes allanol ar wahan i'r hyn sy'n digwydd i'r cyffredin o ddynion yng nghwrs amser. Gwelodd gladdu priod ei ieuenctid yn 34 oed, yn 1903. Merch ydoedd hi i Griffith Williams y gof yn y Bwlchgwyn. Aeth i'w bedd o hiraeth ar ôl Tegwen, y ferch fach a gladdesid yn dair oed ychydig o'i blaen.
Priododd yr eilwaith â merch Lewis Morgan, Tŷ Brych, Ystalyfera. Gwelodd ei chladdu hithau, a loes arall i'w galon fu colli David Emrys, ei unig fab, yn 1919. Erys ar ei ôl dair o ferched, ac atynt hwy yr aeth i Lundain yn 1927, gan gefnu ar waith ei fywyd fel gweinidog, a hynny'n bennaf oherwydd y byddardod trwm a'i daliodd. Bu'n esgob i eglwysi bychain Llundain yn y cyfamser, a chafodd brynhawn melyn bach" wrth fodd ei galon i bregethu