iddynt o Sul i Sul. Daeth i deimlo'n glyd yn y brif-ddinas yn fuan, ac yn ŵr annwyl i Gymry Llundain.
Bu farw yn yr ysbyty yno Ionawr yr ail, 1937, wedi cystudd byr, a symudodd yn dawel fel y bu fyw i'r fro y canodd yn bêr am dani.
Syniad ei blant yw'r gyfrol hon, ac arwydd o'u parch mawr a'u cariad tuag at un a fu'n dad a mam iddynt drwy'r blynyddoedd.
Dylwn innau ddiolch iddynt yma am bob cymorth, a rhyddid i ddefnyddio a fynnwn o'r defnyddiau sy ganddynt. Anaml yr ysgrifennai Ben Davies ei bregethau'n gyflawn, a bu'n rhaid dewis o'r ychydig a ddigwyddai fod yn weddol lawn. Mewn nodiadau hefyd y gadawodd ei anerchiadau i fyfyrwyr Coleg Bala-Bangor, fel na ellid cynnwys dim o'r rheini chwaith.
Ni ellir gorffen hyn o dasg heb gydnabod yn ddiolchgar iawn hynawsedd a chymorth parod yr Argraffwyr.
T. EIRUG DAVIES.