Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/27

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD I

RHAG ofn y bydd i rywun deimlo awydd i ysgrifennu gair o'm hanes, gosodaf i lawr yma o dro i dro rai o brif ffeithiau fy mywyd bychan.

Clywais fy mam yn dweyd lawer gwaith i mi gael fy ngeni tua deg o'r gloch yn yr hwyr, ar yr unfed dydd ar ddeg o Hydref, 1864. Enw fy nhad oedd David Davies, ac enw fy mam oedd Sarah. Ganwyd fi yn y Ddôl-gam, amaethdy bychan ar lan afon Llynfell, yng nghysgod y Mynydd Du. Merch y Ddôl-gam oedd fy mam. Ni allaf yma olrhain ei llinach, ond yr oedd ei thad, Dafydd William, Ddôl-gam, yn un o ddiaconiaid Cwmllynfell ac yn un o gyfeillion y diweddar Barch. Rhys Pryse ; dywedid ei fod hefyd yn berchen yr hyn a elwid yn ddawn gweddi i raddau anghyffredin. Daethai fy nhad yn llanc o gymdogaeth Taliaris i weithio yn y Cyfyng, priododd yno, a chladdodd ei wraig yn lled fuan,—ail-briododd, a chladdodd yr ail wraig ymhen ychydig wythnosau neu fisoedd. Arweiniwyd ef gan gyfaill iddo, ryw nawn Sadwrn, i'r Ddôl-gam-yr oedd fy mam ar y pryd yn argoeli bod yn hen ferch, yn byw gyda'i rhieni. Hoffodd hi fy nhad, ac hoffodd fy nhad hithau. Priodasant, a daeth fy nhad i fyw i'r Ddôl-gam. Yr oedd wedi cael profiad fel ffermwr yn Sir Gaerfyrddin, —bu yn was fferm yno mewn amryw fannau. Yr oedd hefyd wedi cael profiad fel "gweithiwr tân" yng ngwaith haearn Ystalyfera. Wedi dod i'r Ddôl-gam, bu yn gweithio "yn y gwaith", ac ar y fferm ar yn ail, ar hyd y blynyddoedd, a bu'r frwydr yn un go galed lawer tro.

Medrai fy nhad rigymu yn berffaith ddidrafferth; un o'r pethau cyntaf wyf yn gofio yw cân argraffedig yn ein cartref o'i waith.