Medrai fy mam rigymu hefyd yr un mor ddi-drafferth a'm tad, ond nid mor faith. Rhyw ddau bennill oedd ei heithaf hi. Pan oedd fy mrodyr yn gweithio yng Nghwm Rhondda, cofiaf hi yn cyfansoddi y pennill a ganlyn:—
Mae William a John yn Nhreorci
Yn aros bob Sabath yn awr,
'Rwy'n disgwyl bob dydd am eu gweled
Yn dyfod a'u paciau i lawr,
I weithio i hen waith Cwmllynfell
A cherdded y nos i'r Ddôl-gam,
A dyfod a'u "pai" bob pythefnos
Yn gryno i'r hen wraig, eu mam.
Medrai pob un o'r plant rigymu hefyd. Rhai o honynt gyda mwy o hawster na'i gilydd, ond yr oedd y diffyg hwn yn perthyn i bob un. Cofiaf un gweinidog o fri yn dweud i'w fam ei geryddu un tro am wneud pennill, a dweud wrtho, fod pob un oedd yn prydyddu yn cael ei gymryd i'r seilam. Wel, yr oedd pob un ohonom ni'r plant yn prydyddu rhyw gymaint, ac hyd yn hyn, nid oes neb ohonom wedi bod yn y lle a nodwyd!
John fy mrawd, fe ddichon, oedd wannaf yn y ddawn hon, a phan yn digwydd odli neu gynganeddu fin nos, yr oedd odl neu gynghanedd John yn sicr o greu chwerthin iach. Cofiaf ni yn rhoddi gair i'w gynganeddu—"Pysgod y môr".
"Pysgod y môr, lond pasged i mi", meddai un.
"Pysgod y môr, pesga di mwy", meddai'r llall. "Pysgod y môr—cysgod yr Iôr", meddai John. Nid oes angen egluro dim i gynganeddwr!
Cofiaf ddydd angladd fy mamgu—mam fy mam. Yr oeddwn y pryd hwnnw tua thair oed. Cofiaf lawer o ddieithriaid yn y tŷ, ac yr oedd eu hofn arnaf; nid oeddwn yn fodlon dod i lawr o'r llofft. Wedi i'r angladd gychwyn,