gan gario'r tail i'r domen mewn "carllwyd". Byddai yn rhaid cael dau i gario'r 'garllwyd ', byddai un fel rheol yn ei llanw ac yn galw am gymorth un arall i'w chario. Gwaith pwysig iawn oedd tendio'r töwr". Tô brwyn a gwellt oedd i fwthyn syml y Ddôl—gam, a byddai'n rhaid gosod haen o dô newydd ymron bob blwyddyn. Ym Medi neu Hydref y cyflawnid y gwaith hwn, fel rheol. Cyn dyfodiad y gaeaf, yn gyntaf, 'roedd rhaid myned i'r mynydd i ladd brwyn, a'u cludo yn llwythi yn y car llusg, dros fynydd a chotia, lle nad oedd un math o ffordd. Teflid y brwyn yn bentwr ar y weirglodd ger y tŷ. Rhaid oedd myned wedyn i'r coed i dorri "scilps ", coed cyll a bedw ystwyth. Yna, eu hollti a'u blaenllymu, gogyfer â bod yn offerynnau i ddal y brwyn yn eu lle ar ben y tŷ. Yr oedd hollti'r "scilps" yn grefft, felly hefyd y toi. Enw'r hen "döwr" oedd Rhys Rosser. Cymeriad digrif oedd Rhys; yr oedd ganddo hanes ffortiwn i bob tŷ ymron—dim ond cael benthyg un "goron" arall, er mwyn gohebu â'r Chancery—a dyna'r ffortiwn ar ben bwrdd. Rhoddwyd iddo fwy nag un goron, ond ni welwyd yr un ffortiwn. Pan ar nen y tŷ yn toi, yr oedd cyn falched o'i orsedd ag unrhyw frenin. Pan fyddai eisiau brwyn, gwaeddai allan "rushes-rushes neu scilps-scilps". A'm gwaith innau oedd rhedeg i fyny ac i lawr yr ysgol yn ôl y galw.
Ond y gwaith pwysicaf oedd gofalu am y defaid a'r ŵyn—ac yn enwedig yr ŵyn ym misoedd Chwefror, Mawrth, ac Ebrill. Rhaid oedd myned allan bob bore gyda'r dydd, i geisio diogelu yr ŵyn ieuainc rhag sythu a boddi. Byddai ein defaid ni yn croesi "Cwter Jâms" yn y nos—neu gyda thoriad cynta'r dydd. Yr oedd pontydd bychain, culion, o dyweirch, wedi eu gosod yma a thraw ar draws y 'Gwter' gogyfer â'r defaid. Fel rheol, croesai y ddafad yn ddihangol, ond syrthiai yr oen nwyfus i'r dwfr. Cludid ef ymaith gyda rhuthr y llif a boddai. Collwyd ugeiniau o ŵyn yng "Nghwter Jâms". Yr oedd gweled