ymron a thorri allan i wylo. Ar ôl mynd adref hysbysais fy mam o'r hyn a ddywedasai 'Newyrth Jonah wrthyf. Barnai hithau fy mod yn rhy ieuanc, ond ar yr un pryd, os oeddwn yn teimlo awydd am i mi aros ar ôl y noson honno. Daeth y pwnc yn gyfrifoldeb personol go fawr. Y nos Sul hwnnw yn hen gapel Cwmllynfell arosais ar ôl, a'r Cymundeb dilynol derbyniwyd fi (a nifer ereill o bobl ieuainc) yn gyflawn aelod. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1873.
Ni wn yn iawn pa oedran y dechreuais ar yr ysgol ddyddiol. Fe ddichon i mi fod ryw gymaint yn yr ysgol hon pan rhwng saith ac wyth oed. Ond gan fod y ffordd ymhell, a'r esgidiau yn brin, a'r galwadau i fyned ar ôl y defaid neu'r da, neu gyflawni rhyw orchwylion ar y caeau mor aml, bylchog a di-lun iawn a fu fy ysgol.
Pa ddiben darlunio yr hen ysgoldy a'r hen ysgolfeistr Y mae'r darlun wedi ei dynnu gynifer gwaith. Efallai, er hynny, fod hen ysgoldy Cwmllynfell mewn rhyw bethau yn hollol ar ei ben ei hun. Gelwid hi yn British School, a deallaf yn awr y dygid ei thraul gan yr ardalwyr. Wyddwn i ddim yn y byd beth oedd British School yn ei olygu, ond tybiwn fod ei pherchen ryw dro wedi bod yn gwisgo british' fel 'Newyrth Morgan, Llwynmoch! Safai'r ysgoldy ar gyfer hen gapel Cwmllynfell, yr ochr arall i'r afon-afon Llynfell. Y tu cefn iddo yr oedd cae, a alwem yn 'Ffaldau'. O'i flaen yr oedd y Bryn, a'r heol. Yr oedd gan yr ysgolfeistr bulpud—nid desc gyffredin, ond pulpud, a phedair neu bump gris i fyned i fyny iddo. O'r fan yma byddai yn galw ein henwau yn y bore, a ninnau yn ateb yes sir
Byddai'n ceryddu yn ddidrugaredd weithiau, a byddai'r frwydr yn boeth rhyngddo ef a'r plant. Byddai nifer yn ymosod arno ambell dro, a'r llwch yn codi'n gymylau. Cofiaf ef yn gollwng ruler o'i bulpud, at un o'r plant, ac i hwnnw fy nharo i, nes codi whwrlyn' mawr ar fy mhen. Weithiau gosodid troseddwr gwaeth na'r cyffredin yn y black hole. Yr oedd