Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/40

Gwirwyd y dudalen hon

Gan fod dyletswyddau'r fferm yn galw arnaf i golli'r ysgol yn fynych, nid wyf yn sicr i mi ddysgu dim yn yr ysgol yn y dyddiau bratiog hynny. Do, dysgais gasâu Saesneg blin gennyf hynny heddiw. Diau y buasai fy ngyrfa wedi bod yn dra gwahanol, pe wedi dysgu caru iaith arall pan yn llanc. Ond methwyd llanc. Ond methwyd a gwneud Sais o honof, ac nid da gennyf yr iaith honno hyd heddiw.

Y LOFA

Pan o fewn mis i fod yn ddeuddeg oed, bu raid i minnau, fel fy mrodyr ereill, wynebu'r lofa. Cofiaf ddisgyn i waelod hen bwll Cwmllynfell, a William fy mrawd yn fy arwain. Wedi cyrraedd gwaelod y pwll, cerddem i lawr am tua milltir i goluddion y ddaear. Fy ngwaith yma oedd "cadw drws "—dryso. Gofalu ei agor i'r 'siwrnai i fyned heibio, yna ei gau. Amcan y drws oedd cadw'r awyr i gerdded yn ei ffordd briodol er mwyn iawn awyru'r lofa. Wrth fyned y tu cefn i'r drws, clywid yr awyr yn ysgubo drwy'r brif-ffordd fel corwynt. Byddwn yma am oriau wrthyf fy hun—a chyfansoddais yma lawer o benillion ac englynion—gorffwysant yn dawel ar y llechi llaith ym mynwes yr eigion du. Yr oedd Gwilym Wyn yn un o'r hauliers a ddelai heibio, a byddai yn fy holi am ryw gynghanedd neu'i gilydd bob siwrnai. Yn y prynhawn cyntaf, daeth William fy mrawd o ganol prysurdeb ei waith, i edrych sut yr oeddwn, ac edrych os oeddwn yn eistedd mewn lle diogel.

Dylwn nodi yma un enghraifft o anwybodaeth llanc o fin y mynydd yn dechrau ei yrfa "dan y ddaear". Llusern wifrau bŵl iawn oedd gennyf. Nid oedd ond ychydig iawn o rai gwydr y pryd hwnnw. Yr oeddwn innau mewn trafferth parhaus yn ceisio torri ffwrdd o'r fflam y pabwyr oedd wedi llosgi, er mwyn cael y fflam yn loywachi. Yr oedd rhyw wifren fach o waelod y lamp at wneud hyn, ond methwn i a'i chael i weithio yn dda. O'r diwedd, torrais dwll bychan yn y case, â'm cyllell, modd y gallwn