ac un ochenaid hir ddistaw oedd y diwrnod ar ei hyd. Nid oeddwn yn gallu chwerthin yn y dyddiau hynny. Methwn a mwynhau nos Sadwrn na'r Sul, am fod bore Llun a'i garchar du a'i safn yn agored ar fy nghyfer.
Eithr daeth diwedd ar yr helynt yn lled sydyn. Tua diwedd y flwyddyn 1874, neu yn gynnar yn nechrau 1875, stopiodd yr hen waith! Aeth fy mrodyr i weithio i Gwm Rhondda, a chefais innau fod gartref. Cefais ganiatad fy rhieni i fyned i'r ysgol eto am ambell ddiwrnod. Erbyn hyn yr oedd ysgol-feistr newydd wedi dyfod i Gwmllynfell, a gair da iddo gan bawb. Gŵr ieuanc o'r enw Mr. Roberts, o Abercraf—Mr. J. J. Roberts, Pontardawe, wedi hynny. Gwnaeth ef waith ardderchog yng Nghwmllynfell cyn symud ohono i Bontardawe. Bu yn eithriadol garedig i mi, ac y mae gennyf barch dwfn iddo yn fy nghalon. Pan ddeallodd fy mod wedi bod yn y 'lofa'-gosododd fi ar fy mhen fy hun mewn congl glyd o'r ysgoldy, ac ymwelai â mi droeon yn ystod y dydd i'm cyfarwyddo gyda'r sums. Nid oedd gennyf yr un awydd am gymryd dim ond Arithmetic—ond dechreuodd ef fy nenu i ddarllen, ac ysgrifennu allan o un o lyfrau y Royal Readers. Gosododd fi i ddysgu barddoniaeth ar fy nghof. A'r diwedd fu iddo ofyn i mi a thri arall o rai ymron yr un oedran i baratoi at arholiad y Pupil Teachers. Gosododd ni yn athrawon ar wahanol ddosbarthiadau yn ystod y dydd, a rhoddai wersi i ni i'w gwneud ar ôl mynd adref. Bum am rai misoedd yn 'teacho', ac yn llafurio'n galed bob nos gyda'r gwersi. Nid oedd fy nhad yn fodlon o gwbl i mi fyned yn 'deacher'. Yr oedd fy mam ychydig yn fwy rhadlon. Yr oedd gennyf gof da a gallaswn ddysgu unrhyw beth ymron. Cynygiodd Mr. Roberts wobr i'r un a ddysgai orau "The Sofa" (Cowper) ar ei gof. Cofiaf noson y prawf, ger y tân, yn yr hen ysgoldy. Daeth y wobr i mi yn rhwydd. Yr oeddwn yn ei wybod bob gair. Dyna fy ngwobr gyntaf, yn sicr. Yr wyf yn cofio darnau ohono hyd heddiw:—