fawr i ŵr o'r enw D—— Llosgai yr awydd am roddi curfa iddo yn fy nghalon. Yn fuan teithiasom i wahanol gyfeiriadau, ac ni chefais gyfle i roddi'r gurfa, ond yr wyf wedi pregethu iddo lawer gwaith ar ôl hynny, ac yntau yn gwrando fel pechadur! Y tro diwethaf y pregethais iddo, yr oedd wedi heneiddio llawer, gwrandawai arnaf gyda gwên, ac yr oedd deigryn yng nghil ei lygad! Diau ei fod yntau'n cofio'r dyddiau tymhestlog gynt, ond yr oedd pob awydd am ddial wedi mynd.
Un bore gaeafol, a'm pen yn dost, a'm mam yn fy ngalw i fynd i'r gwaith, a minnau yn methu ateb gan wylo, wrth feddwl wynebu anghysur fy niwrnod gwaith yn y fath gyflwr, daeth fy mam i'r llofft i edrych, paham na buaswn yn ateb. Codais innau, ac wrth newid fy nghrys, gwelodd gleisiau mawr ar fy mreichiau a'm hysgwyddau, ac meddai—
Pa beth yw'r cleisiau yna
"Y ceffyl sydd yn fy nghnoi," atebwn. "Pwy geffyl" gofynnai hithau.
A bu raid dweyd yr hanes. Dywedodd nad oeddwn i ddioddef peth felly, y buasai hi yn byw ar fara a halen yn hytrach nag edrych arnaf yn cael fy maeddu felly. Drwy ei dylanwad hi ar rai o'r gweithwyr, cefais le yn fuan gyda cholier'—a dechreuais innau dorri glo. Cyn gadael y drws, gadawer i mi nodi i mi unwaith fod ymron colli fy mywyd. Un tro, clywwn sŵn dram yn dod i lawr yr heading, rhedais i agor y drws, ac ar y foment yr oedd y drws yn deilchion a minnau, a'm lamp wedi diffodd, wedi fy nharo i'r ochr gan ddarnau o'r drws. Dram ar wyllt ydoedd, ac ni allsai fod rhagor nac ychydig fodfeddi rhyngof â bod yn ei gafael. Gwelais yr haulier yn dod i lawr yn araf, ac ofnus—ac yn sefyll, yna yn dawel yn fy ngalw wrth fy enw, Ben bach "Wel," meddwn innau. "Wel own i'n ofni dy fod di wedi dy ladd." Welais i ddim o'r haulier mor garedig a thyner erioed â'r diwrnod hwnnw.