Hoffus gan ambell un yw gwylio anghysondeb gŵr y ddawn gyhoeddus. Mor anghyson yn ei fywyd yn y gwaith â'i weddi yn y capel. Dyma flasusfwyd dramodau diweddar. Rhaid i mi ysgrifennu na welais i nemor ddim o'r anghysondeb hwn. Ni chlywais i yr un gweddiwr yn rhegi, yn ôl fel y ceisia ambell un ddweyd. Ni welais i yr un ymddygiad anweddus gan yr un o'r blaenoriaid crefyddol hyn. Yr oeddynt yn grefyddol dan y ddaear fel yn y capel. Un o'r gweddiwyr mwyaf melys—bêr yn y capel oedd un o'r enw Sami o'r Glwyd—bum yn gweithio gydag ef am rai wythnosau, mewn lle llaith, glo tlawd, top drwg, lle profedigaethus i'r eithaf; ac er gweithio'n galed yno fore a hwyr, ac ni allasai fod yn ennill rhagor na rhyw bymtheg swllt yn yr wythnos, eto ni chlywais air anweddus o'i enau. Wrth gofio aml brofedigaeth a gafodd, ni allaf heddiw lai na rhyfeddu at ei ras.
Yr oedd James Powell yn amlwg yn un o eglwysi'r cylch, ac yn feddiannol ar ddawn gweddi, a thueddai ef at fod yn ffraeth ei dafod ar adegau, ac yn enwedig, hoffai ystoriau direidus, a mân driciau chwerthingar. Ond i'r sawl a'i hadwaenai'n dda, nid oedd gronyn o falais na drwg yng nghalon lon James Powell. Cymhellodd fi lawer gwaith i fyned i bregethu, a chofiaf ef yn gwrando yng nghongl y sêt fawr ym Methel a'r deigryn yng nghil ei lygad. Rhaid ymatal.
Yn ystod yr adeg hon, yng ngwaith Bryn Henllysg, daeth awydd barddoni a chystadlu ataf fel twymyn, a hefyd awydd am fynychu cyfarfodydd crefyddol a phregethu. Daeth y ddau awydd yma ataf yr un pryd ymron, meddiannwyd fi gan y naill a'r llall. Tynasant fy mywyd i'w gafael yn llwyr. Ac yr oedd awyrgylch ffafriol i'r ddau awydd yn y lofa, yn yr ardal, ac yn y cartref. Rhaid i mi felly cyn myned ymhellach ysgrifennu gair i'r ddau gyfeiriad hyn.