PENNOD III
BARDDONI A CHYSTADLU
CREDAF fy mod wedi dysgu'r Cynganeddion, fel y'u ceir yn yr Ysgol Farddol" (Dafydd Morgannwg) cyn fy mod yn ddeuddeg oed. Dysgais hwy i ddechrau o Ramadeg Tegai. Daethai fy mrawd William o hyd i ddarnau ohono yn rhywle—a gwelais ar unwaith pa beth a olygai cynghanedd. Ni chefais ddim trafferth i'w dysgu. Yr oedd un o'm cyfeillion yn dechrau ei dysgu ar yr un adeg, ac nid yw wedi ei dysgu eto, er "poeni ar hyd y nos Rhaid geni gŵr i ddeall cynghanedd. Deuai'r "Gwladgarwr" i'r tŷ bob wythnos, ac yn hwnnw yr oedd Islwyn yn golygu'r Farddoniaeth. Pan tua naw neu ddeg oed, gyrrais, (heb ddweyd gair wrth neb), englyn i Islwyn gogyfer â'r "Gwladgarwr". Nid oeddwn y pryd hwnnw wedi dechrau astudio'r gynghanedd. Englyn i'r 'Coryn', a'r feirniadaeth oedd Pentwr o wallau". Gwnaeth beirniadaeth felly les mawr, agorodd fy llygaid. Nid wyf yn cofio'r englyn i gyd ond dechreuai fel hyn:
'Bendramwnwgl drwbl driban—mae'r coryn
Mewn caerau druan:
Pan tua thair-ar-ddeg oed, anfonais englynion i Brynfab, ac yr oedd yn arferiad i fardd ieuanc y pryd hwnnw nodi ei oedran. Nodiad caredig Brynfab oedd: "Da, os yw'r bardd hwn yn dweyd y gwir am ei oedran; gwell i ni edrych at ein llawryfau!" Anfonais ddau bennill i'r "Gog" i "Ddysgedydd y Plant ", dan olygiaeth y Parch. D. Griffith, Dolgellau. Cawsant ymddangos â'r enw "Gwynfab" odditanynt. Yn ddiweddar gwelais y pennill-