Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/51

Gwirwyd y dudalen hon

ion hyn, yn y "Dysgedydd"—ac enw arall, digon parchus yn eu harddel!

Cefais fy ngwobr gyntaf yng nghapel "Beulah fach", mewn Cwrdd Llenyddol, am benillion i'r Nos", dan feirniadaeth Arianglawdd. Rhoddodd y beirniad ganmoliaeth iddynt, darllenodd y pennill olaf gyda hwyl. Rhoddodd hynny hwyl i minnau. Ym mhen ychydig wythnosau gwelais Arianglawdd yn cerdded yr heol drwy Gwm Twrch, yn ei wisg ddu lân, a minnau yn llanc y mynydd a'r lofa, yn fy nillad diwedydd,—aeth fy nghalon i guro fel tabwrdd, a bum ymron a syrthio mewn perlewyg— ond methais ag anturio myned ato. Yr oedd ei basio o fewn dwylath yn ddigon o anrhydedd am oes.

Dyma gyfnod Watcyn Wyn yn dod am dro i'r Ddôl Gam i weled fy mam, pan ar ei wyliau o Goleg Caerfyrddin. Cofiaf ef yn cerdded yn araf dros y Coedcae, a gallaswn feddwl bod meddyliau yn pwyso arno nes ei blygu. Byddai pob ymweliad o'i eiddo yn ennyn y tân ynof, er mai am William yr holai ef-a gosod ei law yn fy ngwallt gwlanog innau. Yr oeddwn yn slafaidd o ofnus a gwylaidd. Mae ofn wedi fy anafu ar hyd fy oes-er fe ddichon na chred pawb mo hyn. Cuddiwn fy marddoniaeth o olwg pawb. Pan fuasai rhywun o'r teulu'n digwydd darganfod llinell o'm heiddo, teimlwn yn euog, fel pe bawn yn droseddwr mawr. Yr oeddwn yn awyddus angerddol am farddoni, ond cuddiwn bob llinell, yn enwedig o olwg y teulu, ac o olwg William. Deuthum yn fwy hy wrth ennill dro ar ôl tro. Pan o'r pymtheg i'r ugain oed hoffwn gystadlu ar areithio ar y pryd, a dadlau ar y pryd, darllen ar y pryd, ac adrodd, yn ogystal ag ysgrifau a barddoniaeth.

Dyma gyfnod y Cyfarfodydd Llenyddol a'r Eisteddfodau lleol. Mawr oedd eu swyn. — 'Roedd dyfodiad pob Eisteddfod fel dyfodiad bore o Fai. 'Roedd gwyrddlesni a ffresni cyfareddol yn perthyn i bob bag eisteddfodol. Daeth pentyrrau o honynt i'r bwthyn mynyddig. Byddai