Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/53

Gwirwyd y dudalen hon

llwyddodd honno hefyd. Dyfed oedd y Beirniad—ac amryw feirdd o fri yn cystadlu—" beirdd o fri y cyfnod hwnnw! Cefais am yr awdl honno wobr o £8 a Chadair. Cynhelid yr Eisteddfod yn Nhredegar yn 1885. Yn y gadair honno yr eisteddaf pan yn ysgrifennu y geiriau hyn. Y mae yn ymyl deugain mlynedd oddiar hynny. Mae'r gadair" yn dal dda! Mae'r Awdl wedi myned yn hen ffasiwn ac afler! Bum drwy rannau ohoni ddoe—wel, wel! Ac eto, y mae ynddi lawer o ddychymyg, a pheth gwreiddiolder, cynghanedd lithrig, ac iaith go dda. Pe digwyddai i ti ddarllenydd roddi dy law arni rywbryd yn rhywle, cofia iddi gael ei chyfansoddi gan grwt o golier, yn y bore cyn mynd at ei waith, ac yn yr hwyr ar ôl dychwelyd. Collais ddydd o waith er mwyn ei hysgrifennu gogyfer â'r gystadleuaeth. Nid oeddwn wedi ei dangos i neb. Nid oes neb wedi ei gweled eto-ond Beirniaid!

Mae tabled ar gefn y gadair yn darllen fel hyn:

TRYDYDD
EISTEDDFOD GADEIRIOL CYMRODORION TREDEGAR
LLUNGWYN 1885
AWDL—RHINWEDD.

Erbyn dyfodiad yr Eisteddfod yr oeddwn wedi gadael y lofa, ac wedi gadael cartref, ac wedi myned i'r Ysgol Ramadegol yn Llansawel. Oddiyno yr euthum i Dredegar i gael fy nghadeirio.

Bu hyn yn derfyn ar gystadlu hyd nes gadael y Coleg, ac ymsefydlu ym Mwlchgwyn. Yna cefais wobrwyon fel y canlyn—

Cadair Eisteddfod Annibynwyr Ffestiniog, ar y testun "Ac Arch Duw a ddaliwyd", Nadolig 1889. Argraffwyd y Bryddest honno, a gwerthodd yn dda. Cadair Meirion, Calan 1890; Pryddest: "Cyflafan Bethlehem". Yna, Cadair Meirion wedyn am Bryddest "Y Dechreuad", Calan 1891, a chadair Meirion wedyn am Bryddest "Wele