Oen Duw", 1892. Cyfrifid ennill Cadair Meirion deirgwaith yn olynol yn gamp ym myd barddas y dyddiau hynny. Gwnaeth y Parch. Rhys J. Huws yr un gamp ymhen rhai blynyddoedd wedi hynny—os oedd yn gamp hefyd. Ystyrid barddoniaeth eisteddfodau Meirion yn y dyddiau hynny'n farddoniaeth newydd! Yng ngolau pethau heddiw, y mae'n amheus gennyf a oedd yn farddoniaeth o gwbl! Math ar athroniaeth awenyddol ddychmygol ydoedd, heb nemor ddim crefft. Buasai yn dda gennyf heddiw, pe buasai rhywun wedi dysgu i mi'r grefft o farddoni. Wedi hynny ysgrifennais doreth o ryw fath o farddoniaeth. Cefais wobrau lu, ac yn eu plith, £7 a Thelyn Aur yn y Porth am Bryddest ar Ddydd y Pentecost". Hanner y wobr am Bryddest y Goron yn Eisteddfod y Rhyl 1892, ar y testun "Dewi Sant"—rhoddwyd hanner arall y wobr a'r Goron i Iolo Caernarfon. Cefais Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd 1893, a'r wobr o £25 yn gyfan i mi fy hun. Y testun oedd "Cymru Fydd". Nid yw'r Bryddest hon yn argraffedig oblegid i'r Eisteddfod honno fethu dwyn elw ariannol. Cefais y Goron y flwyddyn ddilynol yng Nghaernarfon 1894, am Bryddest ar Arglwydd Tennyson Yr oedd Tywysog Cymru yn bresennol y Brenin Edward VII, wedi hynny,—derbyniais y Goron Aur o'i law ef, a chlymwyd y rhuban glas am fy mraich gan y Dywysoges. Nid oeddwn yn meddwl dim o'r peth. Mewn gair, nid oeddwn yn ei sylweddoli megis ag y gwna llawer. Gwerinwr syml, o'r cae a'r lofa oeddwn i, ac nid oedd cyffyrddiad llaw frenhinol yn golygu dim i mi. Yr oedd cael ysgwyd llaw â Hwfa Môn, a bod yng nghwmni Iolo Caernarfon, a gwrando Herber, yn llawer mwy o fraint yn fy ngolwg, na phlygu i'r Dywysoges i glymu y rhuban am fy mraich. Yna cefais Gadair yn Llandudno 1896, a £40 o wobr am Bryddest "Tu hwnt i'r llen". Cystadleuaeth agored oedd honno—y bardd i ddewis ei fesur, a'r Bryddest wobrwywyd. Penodwyd bwrdd o feirniaid: J. M. Jones, Dyfed, Elfed, Alafon a Berw.