ei ddarllen. Byddwn yn ei ddarllen fel rheol ar y llofft. Un ffenestr oedd i'r llofft, a dau gwarel bach i honno. Byddwn innau yn gorwedd ar fy hyd gan agor y Beibl o flaen y ffenestr, a mynych y darllenwn yno am awr neu ddwy heb syflyd. Yr oedd yr oriau hyn yn gysegr.
Y mae arnaf ofn ymron ysgrifennu'r nodiadau nesaf sydd yn ymgynnig i'm meddwl. Ofn y bydd i rywun—rhywun ag y geill y nodiadau hyn rywbryd syrthio i'w law—dybio fy mod yn hunanol, ac am wneud arddangosiad o'm gogwyddiadau crefyddol, eithr ni byddai y nodion hyn yn onest, yn nyfnder fy nghalon heb i mi eu nodi.
Tarawyd fy chwaer, Catherine, (y chwaer y darluniais ei phriodas) yn beryglus wael. Yr oedd hi a'i phriod a'u baban yn byw erbyn hyn ar Ochr—y—Waen. Daeth newydd yn sydyn fin yr hwyr i ymofyn mam. Aeth hithau ar unwaith, ac ni ddaeth yn ôl y noson honno. Acth un o'm brodyr i lawr yn y bore, a dychwelodd tua hanner dydd, a dywedodd wrthyf fod Catws yn marw. "Catws" y galwem hi. Aeth y newydd fel saeth i'm henaid. Bum yn crwydro'n bruddglwyfus ar y cacau. Pan ddaeth cysgod yr hwyr euthum i ymyl hen garreg fawr wen (y mae'r garreg honno yn aros yn awr, ac yn annwyl gennyf). Syrthiais ar fy ngliniau yno, a gweddiais ar Dduw, gyda thaerni a symledd plentyn gweddiais yn hir, dro ar ôl tro, hyd nes dyfod y nos. Pan godais oddiar fy ngliniau yr oedd pryder dwfn fy meddwl wedi ei symud, a theimlwn yn hapus. Bore drannoeth daeth y newydd fod fy chwaer yn well, a gwellhaodd yn hollol ymhen ychydig ddyddiau. Cofiaf gystudd arall yn y teulu, a cheisiais innau weddio, ond methais. Methais gael gafael yn yr un dwyster, a'r un gonestrwydd.
Yn y cyfnod hwn daeth yn rhyw fath o arferiad gennyf i fyned allan yn y nos i weddio. Gwnawn hyn, hyd yn oed, wedi dechrau gweithio yn y lofa. Ar ôl llafur a lludded y dydd, ac wedi dwy awr o ddarllen neu farddoni yn y gongl yn y tŷ, byddwn yn mynd allan tua naw o'r ɻ