mewn caethiwed. Hiraethwn am yr haul a'r caeau, ac am gyfle i ddarllen, ac nid oedd fesur ar fy nedwyddwch brynhawn Sadwrn wedi gorffen â'r lofa tan fore Llun! Yr oedd nos Sadwrn fel gwyliau', a'r Sul yn ddarn o'r nefoedd ar y ddaear. Nodais, ymron ar ddechrau fy nodion, fod cysgod y lofa yn fy mhruddhau, hyd yn oed ar y Sul. Yr oedd felly hyd nes i mi ddechrau cymryd rhan yng ngwaith y capel, a dechrau cyfeillachu â Mr. Michael Thomas.
Yn yr adeg hon cuthum i a Michael Thomas yn gyfeillion. Byddem yn cyfarfod bob nos Sadwrn—i ddarllen barddon— iaeth, ac i freuddwydio am bregethu. Treuliasom gannoedd o oriau, mi dybiaf, ar gaeau Ystrad Owen, wanwyn a haf, ac yn y tŷ ger y tân yn y gaeaf. Mynychai ef a minnau yr Ysgol Sul yn gyson yng nghapel Cwmllynfell, canys yr oedd yr Ysgol Sul ar hyd y tai erbyn hyn wedi gorffen ei gyrfa. Ein hathro oedd Mr. William D. Price, gŵr crefyddol, llenor, a hoff o'r Ysgrythur. Brawd ydoedd i Ap Ionawr, un o feirdd gorau Cwmllynfell. Gŵr o ddychymyg beiddgar, ac o feddwl cryf. Ysgrifennais yn lled helaeth arno i'r "Geninen ". Nid oedd William yn gymaint o fardd â'i frawd yr Ap', ond yr oedd, fe ddichon, yn fwy o athronydd, ac yn teimlo diddordeb mawr mewn pregethu a diwinyddiaeth, ac esbonio'r Gair. Athro rhagorol ydoedd, a bu yn gymorth i'm dysgu i ac eraill deimlo diddordeb yn yr Ysgrythur, a chael mwynhad mewn esbonio.
Yma hefyd, cyn myned ymhellach, y dylwn ysgrifennu gair am fy hen gyfaill, Michael Thomas.
Daeth yr adeg i ni i ymadael â'n gilydd ar fy mynediad i i Ysgol Llansawel, fel y caf sylwi cto. Euthum i i'r ysgol geisio porthi dyhead mawr fy nghalon, gan ei adael ef yng nghlofa Bryn Henllysg—ac i rodio'r hen lwybrau heb fy nghwmni. Hiraethai yntau am ddod i'r ysgol, ond rhaid oedd iddo ar y pryd gynorthwyo ei rieni yn eu hamgylchiadau cyfyng. Cafodd yntau'r ffordd yn rhydd i fyned i'r ysgol. Cyrhacddodd Lansawel wedi fy ymadawiad i i'r Bala. Ond yn sydyn gadawodd yr ysgol,