Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/62

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD V

MYND I'R YSGOL. DECHRAU PREGETHU

R oeddwn yn gohebu'n gymharol gyson â llanc o berthynas agos i mi oedd wedi gadael Cwmllynfell, ac yn gweithio yn Nantymoel. John Gnol oedd ei enw'r pryd hwnnw. Daeth yn adnabyddus wedyn i'r holl enwad fel y Parch. J. D. Jones, Cellan. Nid os yr un o'r llythyrau ar gael gennyf, ond cofiaf yn dda, mai llenyddiaeth a phregethu oedd yn llanw'r llythyrau o bob tu. Un bore, dyma'r newydd fod John wedi dechrau pregethu! Fore arall, dyma'r newydd ei fod yn myned am Sul i Rock, Cwmafon! Yr oedd hyn yn llethol o swynol i mi. Wedyn dyma'r newydd ei fod yn myned i'r ysgol ddechrau Mawrth, 1885. Dywedais wrth fy mam, a chrygni a chryndod yn fy llais, fod "John Gnol yn myned i'r ysgol i Lansawel ymhen ychydig ddyddiau. Atebodd hithau ar unwaith y cawswn fyned gydag ef—"Tyse dim ond am gwarter!" Yr oedd "cwarter o ysgol" yn beth lled gyffredin yr adeg honno. Ymadewais a'r lofa ddiwedd Chwefror, 1885, ac euthum i Ystalyfera i brynu rhyw bethau at y "chwarter ysgol", a bore Llun—y cyntaf o Fawrth, 1885—ychwynais a'm bocs i orsaf Brynaman, ac yr oedd John Gnol yno yn fy nghyfarfod, ac i ffwrdd â ni gyda'r trên i Lan Deilo, ac oddiyno mewn cerbyd, a elwid y pryd hwnnw yn 'gambo', o Landeilo i Lansawel, yng nghanol Sir Gaerfyrddin. Cymerth y daith ryw bedair awr, er nad yw ond rhyw ddeg milltir o ffordd, eithr symud yn araf yr oedd gambo'r felin. Cyraeddasom dŷ y Prifathro—y Parch. Jonah Evans, Willow Cottage, gŵr a wnaeth waith rhagorol iawn fel gwein-