idog cynorthwyol yn Sir Gaerfyrddin. Cerdded a wnâi ef i bob man; yr oedd yr heol yn fath ar ail gartref iddo. Cerddai i Sir Aberteifi i bregethu, a phregethu ar y ffordd, ac yn y diwedd bu farw ar yr heol, ger llaw Llanbedr, pan yn agosau at ei 60 oed.
Cofiaf fy mod wedi gyrru gair iddo, fy mod yn dyfod ato i'r ysgol gyda Mr. J. D. Jones o Nantymoel. Nid oeddwn wedi cael amser i ohebu ag ef, a threfnu llety. Nodais yn fy llythyr os na ellwch drefnu fy nerbyn i'ch ysgol yn awr, gallaf ddod nôl adref—gwn hyd a lled. hynny Cefais i a John letya yn Willow Cottage. Ni chaf dynnu darlun o'r ysgol yma, ragor na dweud, mai adeilad perthynol i'r Eglwys sefydledig oedd y "tŷ ysgol"; hen adeilad digon bregus, a'r ffordd o gyfrannu addysg yn hen ffasiynol a di-drefn. Dysgem rifyddiaeth, Lladin a Saesneg, ryw gymaint, Euclid, Algebra, Hanes a Daearyddiaeth, ond y cyfan yn dra elfennol a di-lun. Yr oedd yr athro yn hollol gydwybodol, ac yn weithiwr caled ei hunan, ac am i'r myfyrwyr weithio, ac yr oedd yn ŵr Duw yn ddiamau. Ond nid oedd ganddo nemawr ddawn i hyrwyddo dyn ifanc i wir ddiwylliant. Ond mwynheais flwyddyn yn Llansawel yn fawr iawn. Mor ddymunol oedd y wlad, a'i bryniau, a'i hafonydd. Pan ddaeth gwanwyn yr oedd y côr yr adar yno yn fy synnu—yr oedd y gogoniant yn lluosocach na'r côr arferol ar goedydd anaml y Mynydd Du. Yr oedd cymdeithas y bechgyn hefyd yn ddifyr eithriadol, ac yn agor byd newydd i mi, er i mi gweryla ag un neu ddau. A rhyfedd fel y mae olion hen gwerylon yn aros. Er i ni faddau i'n gilydd, a dyfod yn gyfeillion, eto fe erys rhyw oerfel bach, a diffyg gwir hoffter yn nyfnder y galon o hyd. Dichon ei bod yn glawio yn Llansawel, ond erbyn heddiw, dim ond y dyddiau têg a gofiaf i—dyddiau â'r haul ar y bryniau, a'r hwyr a'r nawn yn goch o hyd.
Ond beth am y "chwarter" ysgol. Nid wyf yn meddwl bod blaenoriaid Eglwys Cwmllynfell yn awyddus iawn am