i mi ddechrau pregethu. Yr oedd amryw wedi dechrau yn ystod y blynyddoedd hynny, ac edrychid arnaf innau fel un am ddilyn y lliaws, ac fel un yn chwilio am "orchwyl ysgafnach na gweithio". Edrychid ar y Weinidogaeth gan lawer fel "swydd segur ". Fodd bynnag, wedi i mi fod tua thri mis yn Llansawel, ac yn cymryd rhan yn barhaus yn y cyfarfod gweddi a'r seiat, un nos Sul—nos Sul o wanwyn hyfryd, a haul yr hwyr yn llanw'r capel, gofynnodd y gweinidog, y Parch. D. B. Richards, i mi ddechrau'r oedfa iddo. Dywedais wrtho nad oeddwn yn bregethwr, ond nid oedd hynny'n ddigon o reswm, gwasgai arnaf i wneud. O'r gorau," meddwn i, "ond af i ddim i'r pulpud, ni fum i mewn pulpud erioed ". Na, na, ewch i'r pulpud," meddai yntau, ac yno yn grynedig yr euthum i'r pulpud y tro cyntaf erioed—pulpud Siloh, Llansawel. Yna, bu Mr. Richards a'm hathro Mr. Evans yn siarad â mi ynglŷn â dechrau pregethu, er mwyn myned allan i'r teithiau fel y myfyrwyr eraill. Nodais innau mai yng Nghwmllynfell yr oeddwn yn aelod ac mai yno y dylaswn ddechrau, ond nad oedd neb wedi gofyn i mi. Ysgrifenasant—Mr. Richards a Mr. Evans, lythyr at y Parch. J. Rees i ofyn a oedd Cwmllynfell am i mi ddechreu pregethu, neu eu bod hwy yn Siloh yn myned eu i ofyn i mi. Canlyniad hyn fu, i mi gael llythyr caredig oddiwrth Mr. Rees yn gofyn i mi ddod adref at y Cwrdd Paratoad a rhoddi pregeth yno, a llythyr yr un pryd oddiwrth William Price, fy athro yn yr ysgol Sul, yn cyfleu yr un neges, ac yn awgrymu testun i mi "Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw ". Ysgrifennais bregeth ar unwaith ar y testun, heb weled esboniad na darllen dim ar yr adnod ; dysgais hi ar fy nghof, adroddais hi allan ar y bryn uwchlaw Llansawel, o'r naill du i Llwyn Plufyn. Euthum adref, ac i'r cyfarfod paratoad, gan adrodd y 'bregeth air am air heb golli gair. Siaradodd Mr. Rees yn ffafriol iawn ar y diwedd. Cynhelid y Cyfarfod Paratoad ar nos Sadwrn. Y Sul dilynol gofynnwyd i mi gymryd at y Sul
Tudalen:Ffrwythau Dethol.djvu/64
Gwirwyd y dudalen hon