ymhen yr wythnos, fore a hwyr. Cofiaf mai wythnos go galed fu hon, ond deuthum drwyddi. "Na thralloder eich calon" oedd un o'r testunau. Cyn cychwyn o'r Ddôl Gam bore Sul, dywedodd fy mam na allasai hi ddyfod i'r oedfa, ond gofynnodd i mi ddarllen Salm iddi cyn cychwyn; gwyddwn ei bod hithau'n gweddio. Dyna, fy machgen i, fe fydd popeth yn dda". Aeth y Sul heibio, ac euthum innau drwy'r ddwy oedfa—ac yn ôl i Lansawel fore Llun. Ym mhen wythnos cefais air swyddogol yn fy hysbysu fod yr Eglwys yng Nghwmllynfell wedi pasio'n unfrydol i'm galw i bregethu. Cefais air hefyd oddiwrth Michael Thomas yn nodi fod y rhai nad oeddent yn gymeradwyol i mi, wedi codi eu dwylaw drosof.
Bellach, rhaid paratoi at Goleg. Ceisiai fy athro gennyf fyned i Gaerfyrddin, ac awgrymodd y gallaswn gael B.A. ac M.A. dim ond i mi osod fy mryd ar hynny. Ni allswn innau gredu bod y fath beth bosibl. Peth arall, yn y Bala y bu William fy mrawd—(un o angylion gwarcheidiol fy mywyd yn y cyfnod hwnnw). Ac yr oedd swyn mawr i mi yn yr Hen Gyfansoddiad ", Bodiwan,— M. D. Jones, yr Riaid ", a minnau wedi darllen cymaint ar y "Celt" a'r "Cronicl bach. Nid oedd modd fy mherswadio i feddwl am Goleg arall. Paratoi felly at y Bala.
Myned allan i bregethu bob Sul,—Crugybar, Carmel Llansadwrn, Abergorlech, Gwernogle, ac weithiau mor bell a St. Clears ar un llaw, a Phentre Tŷ Gwyn ar y llaw arall. Cerdded fel rheol. Cerddais un tro o Sardis Myddfai i Lansawel wedi'r oedfa nos Sul, gan gyrraedd fy llety yn oriau'r borc. Fy nhaith gyntaf oedd i Gwern-ogle, yno y pregethais gyntaf oddicartref. Gwernogle'r bore a Llidiardnennog y prynhawn, a cherdded i Lansawel yn lle oedfa'r hwyr. Tâl myfyriwr am Sul yn eglwysi'r wlad oedd pedwar neu bum swllt, weithiau chwech ac wyth. Mawr oedd parch yr ardaloedd i fechgyn yr