penderfyniad" o'm heiddo; er mwyn cyrraedd y nod ymdrechaf i gadw fy nghymeriad yn loyw, i feithrin teimladau tyner yn y fynwes,—teimlo dros druenus gyflwr y byd digred; ymeangu fy ngwybod— aeth yng nghanghennau mwyaf defnyddiol dysgeid— iaeth; defnyddio pob moddion yn fy ngallu er cael corff cryf, a meddwl parod, a byw bywyd megys gyda Duw mewn gweddi; gan gofio yr un pryd mai amcan y nod fydd gogoneddu Duw fy Nghreawdwr ac ymgais o geisio gwneyd rhyw ychydig dros yr Hwn aeth drosof fi yn "Angau i angau", er fy nghael fy hun ac eraill i afael y cadw tragwyddol ".
Ben Davies, Gorff. 15, 1886. Coleg Annibynnol y Bala, Meirionethshire.
Trefnwyd i mi letya yn Aran House, gyda Mrs. Jones, merch y Tŷ Isa', ger y Bala, hi'n briod â Mr. Jones—perchen peiriannau dyrnu. Cefais yno gartref heb ei ail fel llety am ddwy flynedd. Blin gennyf heddiw am ryw bethau a ddigwyddodd yno, oblegid gormod cyfeillgarwch. Nodaf un. Yr oedd Mr. Jones yn teimlo diddordeb mewn barddoniaeth, ond nid oedd ganddo fawr o law arni. Byddwn innau weithiau yn gwneud penillion iddo, ac unwaith englyn i'r Apostol Paul', a daeth hwnnw allan yn fuddugol yn Eisteddfod Ysgol Sul y Capel Mawr, Bala—a Mr. Jones yn derbyn y wobr, fel awdwr yr englyn! (Mewn blynyddoedd diweddarach, gwneuthum yr un ffolineb,—rhoddais englyn i ffrind, a daeth yr englyn hwnnw'n fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.)
Yr oeddwn yn mwynhau gwaith y Coleg yn fawr iawn, a'r wlad o amgylch y Bala deg, yr afon a'r llechweddau. Breuddwyd oedd bywyd yma. Misoedd yng ngwlad hud. Mor wahanol i'r lefel uchaf yng nglofa Bryn Henllys!
Bum am fisoedd heb bregethu o gwbl—llu o fyfyrwyr yn y Bala, a'r cyhoeddiadau'n brin. Er bod llawer o eglwysi bychain hyd Meirion ond "beth oedd hynny