Tudalen:Ffynnonloyw.djvu/11

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

FFYNNONLOYW

I.

PENNOD I

YR oedd Benjamin Lewis wedi esgyn i'r cart coch, a Darbi'r gaseg wedi rhoddi dau gam i gyfeiriad iet y clôs pan fu'n rhaid iddi aros.

"Wo! Leisa, rhed i'r tŷ i hôl y rwg gore, a cher â hwnna, cymrwch chi'ch dwy e tu ôl 'na".

Ufuddhaodd Lisi Ann er dweud "O dir!" yn ddistaw ac edrych yn gilwgus ar Miriam ei chwaer yn eistedd yn daclus yn y cart. Yr oedd yn rhaid iddi hi gerdded hyd ben draw'r lôn er mwyn agor a chau'r ddwy iet, a hi eto oedd i redeg yn ôl i hôl y rwg. Daeth yn ôl yn fuan, a’i mam yn gweiddi arni o garreg y drws;—

"Cofiwch chi gadw'ch scarffe'n dynn am eich gwddge. Fe fydd yn oer iawn heno".

Dyna hwy bellach yn mynd, ac ar ben y lôn wedi cau'r iet, dringodd Lisi Ann i ymyl ei chwaer. Eisteddai'r ddwy,—a'u cefnau at gefn eu tad,—ar astell a osodasid yn is na'r un yr eisteddai ef arni. Fe'u teimlent eu hunain yn glyd a'r rwg ail orau ar eu gliniau, eu cotiau'n dynn amdanynt, eu scarffiau am eu gyddfau, a'r gwellt glân ar lawr y cart o dan eu traed. Yr oedd y ddwy wrth eu bodd wrth feddwl am y daith a oedd o'u blaen. Aent gyda'u tad i Lanaber i gwrdd â'u brawd a'u chwaer—Lewis a Marged a ddeuai gyda'r traen tri. Yr oedd saith milltir o Ffynnonloyw i Lanaber, a chymerai ddwy awr i Darbi