Tudalen:Ffynnonloyw.djvu/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu cerdded a dwy arall i ddychwelyd. Fe gaent syllu ar ryfeddodau'r daith, a holi eu tad amdanynt, a siarad â'i gilydd am bopeth yn ddilestair.

Yr oedd Benjamin Lewis wrth ei fodd hefyd. Yr oedd ei fab yn dyfod adref o'r coleg a'i ferch o'r ysgol. Yr oedd n falch ohonynt yn falch ei fod wedi medru danfon naill i'r coleg a'r llall i'r ysgol, ac yn falchach fyth o'i fab hynaf, Abram, a oedd ddoctor yn Llundain—Dr. Abram Lewis. Fe allai ei longyfarch ei hun iddo wneud yn well nag unrhyw ffermwr arall o'i gydnabod. Fe gâi ambell mab fferm yma a thraw ychydig addysg, ond ni allai gofio am un ferch i fferm yn yr ardal honno a gawsai ysgol mewn dref. Hawdd oedd i Huws y Siop anfon tair o'i dwr o ferched i rywle i Loegr, lle y caent eu hysgol am ddim, nae'n debyg, trwy ryw drefn ymhlith siopwyr.

Daeth cwmwl dros wyneb Benjamin Lewis wrth feddwl am Huws y Siop. Ni bu ganddo fawr olwg ar y dyn oddi ar y dydd hwnnw dair blynedd yn ôl pan ddygodd Huws gaseg felen arno ar acsion Penrallt,—codi ar ei gynnig ef yn hollol ddirybudd a chipio'r gaseg o dan ei drwyn. Hen dro mên! Hen ddyn bach cenfigennus, ystrywgar doedd, yn siarad â chwi ac yn wincio arno'i hun neu ar rywun arall ar yr un pryd. A dyna fe—trwy un o'i ystrywau'n ddiddadl—wedi priodi chwaer y doctor—ac yntau'n dyn hanner cant oed a llond tŷ o blant ganddo, a gyrru ei dair merch hynaf wedyn yn ddigon pell i'r ysgol i Loegr.

Ar y funud y myfyriai Benjamin Lewis uwch ben bethau hyn daeth car steilus ar garlam heibio tro'r ffordd o'u hôl. Tynnodd Benjamin Lewis gyda gostyngeiddwydd gwyllt ar afwynau Darbi ac aeth y cart coch cyn agosed ag y gallai i'r clais er mwyn rhoddi lle i'r cerbyd ysgafnwych fynd heibio. Wedi hynny y gwelodd mai cerbyd disglair Huws y Siop ydoedd, y gaseg felen ffroen-