Tudalen:Ffynnonloyw.djvu/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

falch yn ei dynnu, a Huws ei hunan ynddo yn eistedd yn grach fonheddig ar gornel y sedd, a'i chwip yn chwifio yn yr awel wrth ei ochr.

'Dydd da, Lewis, dydd da!'

Cododd Benjamin Lewis ei law a ddaliai'r chwip at ei dalcen, a'i lygaid ar ben Darbi, a'i enaid yn flin am iddo frysio cymaint i gilio at y clawdd. Ond yr oedd hwyl siarad ar Mr. Huws.

Mynd i Lanaber? P'un o'r plant sy'n dod adre heddi?"

"O, dau ohonyn' nhw,—y bachgen a'r ferch."

"Y doctor?"

"Na, mae e'n rhy brysur i ddod dros y Nadolig."

"Siŵr o fod. Odi, odi, siŵr o fod. A 'dyw'r ferch sy'n briod ddim yn galler dod, mae'n debyg."

Gadawodd Benjamin Lewis yr hanner cwestiwn heb ei ateb, a gofynnodd:—

A yw'ch merched chi'n dod 'leni?"

"I gwrdd â hwy rwy'n mynd nawr. Rwy'n gynnar, ond 'rwy am alw gyda 'mrawd yng nghyfraith yng nghynta'.

Cododd Benjamin Lewis ei chwip at ei ben fel o'r blaen fel pe i awgrymu ffarwel, ond siarad eto a fynnai'r siopwr. Beth ych chi'n mynd i 'neud o'r ddwy hyn? Ych chi'n mynd i'w hysgolia hwy?"

"Fe 'na i 'ngore i 'mhlant i gyd."

"Costi ma nhw, fachgen, ie, costi ma nhw " ebe Huws, a'r winc yn ei lygad nes peri i Benjamin Lewis ddyheu am daflu'r chwip ar draws ei wyneb. Ond ni wnaeth ddim ond edrych o'i flaen.

"Ond gobeithio dôn nhw i dalu nôl inni, ontefe? Wel, rhaid i fi fynd, neu cha' i ddim amser i alw 'da'r doctor. Dydd da, nawr."