"A oes eisie inni gerdded y rhiw, Data?"
Gorfu i Lisi Ann ail ofyn ei chwestiwn cyn i'w thad ei chlywed.
"E? Na. Fe gewch gerdded rhiw Pengam wrth ddod nôl. Fe fyddwn yn fwy o lwyth bryd hynny."
Beth oedd ystyr y winc a'r sôn am y costau? A wyddai Huws ei gyfrinach ef? A fu'r doctor yn anffyddlon neu yn annoeth? Pe gwybuasai ef y byddai byth berthynas rhwng y ddau fe fuasai wedi petruso mwy hyd yn oed nag a wnaethai cyn gofyn ffafr gan y doctor. Ond fe roesai'r doctor ei air y cadwai'r gyfrinach. Y gwaethaf oedd ei fod yn hoff o'i ddiferyn. A'r hen Huws yno ar bob amser o'r nos yn ddiau, a'i hen winc a'i hen ystryw ar waith, a'r doctor fel cilionen yng ngafael corryn. Ochneidiodd Benjamin Lewis yn uchel. Troes y ddwy ferch yn ôl i edrych arno.
"Be' sy', Data?" ebe Lisi Ann.
"E? Dim. Pam? A welwch chi'r gwylanod yna yn y parc?"
"O, dyna lot! Ma milodd 'na," ebe Miriam.
"Ma nhw'n gweud bod tywydd garw ynddi," ebe'r tad.
"Tywy' garw ym mheth, Data?" ebe Miriam eto.
"Bod tywydd garw'n mynd i ddod, lodes. Arwydd o dywydd garw yw bod gwylanod ar y tir ymhell o'r môr."
"Ai dyna pam o'ech chi'n ochneidio, Data?" ebe Lisi Ann.
"Ochneidio? Ie, falle, wir."
"A ddaw'r tywy' garw heno?"
Na ddaw, na ddaw. Yr wythnos nesa 'falle. Trowch chi'n ôl nawr rhag ichi gael annwyd. Fe fyddwn yng Nglanaber nawr whap iawn."