Tudalen:Ffynnonloyw.djvu/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arwydd o dywydd garw! Ai dyna'r unig arwydd o dywydd garw a'i dangosodd ei hun y prynhawn hwnnw? Os llwyddai un yn well na'i gymdogion yr oedd digon yn barod i estyn bys a gwawdio. Yr oedd ei blant ef yn dod ymlaen yn rhy dda wrth fodd rhai pobl,—y dynion bach, materol, uchelgeisiol, a'u cyfrifai eu hunain yn ddynion pwysig yn yr ardal, ac a fynnai gadw pob cyfle am esgyn o fewn cylch eu teuluoedd hwy. Un o'r rhai hyn oedd Huws y Siop, a'r Morganiaid wedyn, y tylwyth niferus hwnnw a ddaliai ddarnau brasaf y plwyf yn eu meddiant, ac yn awr dyna Doctor Prys i mewn atynt. Ni ddaliai plant Huws, na phlant y Morganiaid, na hyd yn oed blant y doctor ddim i'w cymharu â phlant Ffynnonloyw, ac am hynny yr oeddynt i gyd, a'r doctor hefyd efallai, er na feddyliasai ef am y posibilrwydd hynny o'r blaen—â'u pwmp arno ef. Trueni na buasai wedi siarad â Mali cyn gofyn y ffafr honno gan y doctor. Yr oedd hi yn graffach nag ef. A'i fferm hi oedd Ffynnonloyw, fferm ei thad a'i thadcu o'i blaen, a dyna yntau wedi codi pumcant o arian ar y fferm—Mortgage o bumcant ar Ffynnonloyw, a honno yn llaw'r doctor! Beth a ddywedai Mali pan fyddai'n rhaid dweud wrthi?

Nid oedd Mali eisoes yn fodlon iawn gwario cymaint o arian ar addysg y plant. Nid oedd yn fodlon o gwbl rhoi ysgol dref i Marged. I beth, meddai, gan na fwriedid iddi fynd oddi cartref i ennill ei bywoliaeth?

Ond yr oedd ef am weld ei ferch yn uwch o'i hysgwyddau i fyny na merched ffermydd yn gyffredin,—yn uwch na merched Huws y Siop, yn uwch na merched Morgans yr Esgair. Byddai Marged yn sicr o dalu am ei hysgol. Yr oedd defnyddiau ladi ynddi, ac yr oedd digon yn ei phen. Yr oedd yr un bictiwr â'i fam, ac yr oedd honno fel brenhines yn ei hardal er mai digon tlawd oedd ei byd.