Tudalen:Ffynnonloyw.djvu/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Heb gael car poni ych chi 'to, nhad," ebe Marged â'i llais main wrth ddringo i'r cart. Golwg Gwmreigedd sy arnom ni yn yr hen gart 'ma."

Teimlent i gyd radd o gywilydd.

"O, fe ddaw ryw ddiwrnod, merch i," ebe'r tad, a throdd Darbi ei phen tuag adref.

Yng nghegin Ffynnonloyw yr oedd Ester Elen yn chwys ei hwyneb yn rhwbio'r dodrefn gydag ynni anarferol. Hi oedd y nesaf mewn oed at ei chwaer Marged. Yr oedd rhaid dangos i Marged—ar ei gwyliau cyntaf o'r ysgol 'bant'—y gellid cario pethau ymlaen yn iawn hebddi, a bod y tŷ, nid cyn laned, ond yn lanach nag y bu erioed o dan ei gofal hi. Edrychodd Ester Elen o gylch y gegin eang a rhoes hanner ochenaid. Amhosibl oedd i chwys a sel wneuthur popeth. Yr oedd y seld yn werth y llafur a roed arni. Fe allai dyn ei weld ei hun yn nrysau ei chypyrddau, a disgleiriai'r llestri gleision fel y dylent ar ôl eu golchi i gyd y bore hwnnw. Edrychai'r aelwyd hefyd yn lân a chlyd o dan y lwfer fawr, ac ar y darn wal ar ymyl y lwfer disgleiriai pedyll tin a chloriau ystenau fel heuliau a sêr. Yr oedd y 'grat standin' wedi ei loywi, a dwy garreg las yr aelwyd wedi eu golchi, cadair freichiau ei thad ar un ohonynt a stôl frwyn ei mam ar y llall. O'r nenfwd hongiai'r lamp, ei fflam yn glir, a'i glàs fel grisial. Ar hyd un ochr o'r aelwyd yr oedd y sciw a'r ochr arall y ffwrwm arw fel dwy fraich groesawus. Ond yr oedd y llawr pridd yn boen enaid. Pam na byddai yno lawr brics fel yng nghegin y Felin? A pham na byddai ganddynt gegin fach yn arwain o'r gegin orau fel mewn ffermydd eraill? Yn lle hynny, rhyw damaid o le oedd yno, yn ymyl y tŷ yn yn rhan ohono, lle byddid yn corddi a golchi. Byddai Morgan a Wil y gwas â'u hesgidiau budron yn cerdded trwy'r gegin i'r rwmford, ac eisteddent yn y gegin fin nos