Tudalen:Ffynnonloyw.djvu/170

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwelodd rhai ei gwefusai'n symud, ond ni chlywodd neb ei geiriau. Nid oes sicrwydd i Ted Lloyd eu clywed ychwaith, oherwydd pan ddaeth doctor yno ymhen llai na phum munud ni allodd hwnnw wneud dim ond dweud ei fod wedi marw.

Ni chafodd Nan, wedi'r cwbl, gyfle i roi barn ar Gymreigrwydd Cymdeithas Lenyddol Seilo oherwydd bu'n rhaid gohirio'r ddarlith.