Tudalen:Ffynnonloyw.djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

waeth pa faint o amser a dreuliasai hi i'w glanhau. Fe ddylasai fod cegin fach yno. Fe ddylasai fod yno lawr brics. Fe ddylasai fod yno lawer o bethau, ond nid oedd ei thad yn fodlon gwario ceiniog i atgyweirio na gwella dim.

Daeth Morgan i mewn i dorri ar ei myfyr. Cydiodd yn un o'r cadeiriau ac edrych arni.

Ma'r stôl 'ma'n lŷb."

"Glŷb, wir! Gloyw yw hi! Paid â'i symud hi o'r fan 'na."

"Rwy'n mynd i sefyll arni i dynnu cannwll lawr."

"Sefyll arni! A'r sgidie 'na? Hwre, dyma stôl iti." Cymerodd Morgan y stôl a thorrodd gannwyll yn rhydd o'r bwndel mawr o ganhwyllau gwêr a hongiai o dan y llofft.

"Hawyr bach!" meddai, gan wenu, a rhoi'r gannwyll yn y lantern, a mynd at y tân i'w chynnau â spilsen. Ma steil 'ma heno!"

Yna daeth eu mam i lawr o'r llofft wedi gwisgo ei gŵn du ail orau, a'r tro o felfed ar ei odre, siol fach ddu a gwyn wedi ei phlygu'n dri chornel am ei gwar, a'i chroesi dros ei bron, a ffedog liain lydan, lliw leiloc o'i blaen, a'i chap du ail orau ar ei phen,—y cap â'r miwglis yn hongian wrth y clustiau.

Benyw dal, fain oedd Mali Lewis, ei hwyneb yn welw, a direidi ei llygaid glas, byw, wedi troi'n dynerwch ac yn ddwyster. Mam ydoedd yng nghyntaf ac yn olaf, ac i blant Ffynnonloyw nid oedd neb fel hi yn y byd.

"Dere, merch i" ebe hi'n dawel, "mae'n bryd rhoi'r tato ar y tân. Fe fyddan' 'ma ymhen hanner awr.. "

Tato! Wes cinio i fod heno 'te?" gofynnai Morgan yn syn.