Tudalen:Ffynnonloyw.djvu/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Erbyn hwyr y dydd prysur hwnnw yr oedd llond twba shinc" mawr o wyddau a hwyaid blonegog, graenus, yn barod ar gyfer y Farchnad Wyddau yn Aberilin drannoeth.

"Hwyad ym ni'n gael Nadolig, mam?" gofynnai Marged, pan welodd un hwyad ar ddysgl yn y llaethdy, yn lle yn y twba gyda'r lleill. Fe fydd hwyad yn fach iawn inni i gyd."

"Ruth biau honna, wir, merch i. Fe dreies ga'l cadw gwydd inni am unwaith, ond welais i erioed dy dad mor gyndyn. Ma'n rhaid safio pob dime leni, medde fe.”

"Beth gawn ni, 'te?"

Pastai jiblets fel arfer. A ma rheini'n neis iawn. Rwyt ti'n arfer bod yn hoff iawn ohonyn nhw."

"A rych chi'n rhoi hwyad i Ruth a'r hen Josi?"

Gofyn inni werthu un iddi wna'th Ruth, whare teg iddi. Ac os na chaiff hi dalu amdani mewn arian mae'n siŵr o dalu mewn ffordd arall. Hi rows y ddwy ffedog fach neis 'ny i ti fynd i'r ysgol, cofia."

"A ym ni'n dlotach na Ruth 'te, a hithau wedi priodi'r gwas?" ebe Marged.

"Ma pobol yn meddwl cymint am 'u bolie bant tua'r gweithe 'na, a ma arian parod'da nhw, peth na sy ar ffarm." Ma Leisa'r Llain wedi ca'l plwm pwdin o wrth i whâr sy'n Aberdâr."

"Nhw pia hi, wir! Weles i ddim plwm pwdin yn 'y mywyd, ac unwaith wy'n cofio inni ga'l gŵydd."

"Yr hen ŵydd fach hynny oedd y iâr wedi fagu?"

"Ie. Roedd hi'n rhy fach i fynd â hi i'r farchnad, a fel 'ny fe'i bytwd hi."

Hm! ebe Marged. "Mae'n well i finne briodi Wil, gwlei. Phrioda i ddim ffarmwr, rwy'n siŵr."