Eto, er tyfu o'r penodau dan fy nwylo, ni ddaeth i'm meddwl eu cyhoeddi yn llyfr hyd ar ôl eu hymddangosiad yn Y Dysgedydd, a derbyn ohonof dystiolaethau amrywiol i'r budd a ddaeth o'u darllen. Wedi hynny y mae llawer wedi ymbil arnaf eu cyhoeddi yn llyfr, a rhai y mae gennyf barch i'w barn yn dweud ei bod yn ddyletswydd arnaf. Yr wyf hefyd wedi derbyn awgrymiadau gwerthfawr gyda golwg ar ychwanegu at y cynnwys, a'i wneud yn llyfr sylweddol. Ond buasai hynny yn ei chwyddo'n ormodol, ac yn fy nghario allan o'r amcan ymarferol syml sydd gennyf fi mewn golwg. Ni allaf ond ychwanegu tri neu bedwar nodiad y gellir eu darllen yn y fan hon neu ynteu ar y diwedd.
Nid oedd gennyf un amcan llenyddol wrth ysgrifennu. Yr hyn a geisiwn oedd bod yn gywir, ac osgoi'r demtasiwn i orliwio. Credaf fy mod wedi llwyddo yn hyn. Diau na all iaith byth wneud tegwch â phrofiadau ysbrydol-nac unrhyw brofiad yn wir ond gall awgrymu teimladrwydd ansylweddol, a phan wna hynny, nid yw yn gywir.
Go brin y mae angen dweud na cheisiais ond dilyn prif linellau y patrwm o fywyd a wewyd yn fy hanes i. Y mae symudiadau y mil myrdd teimladau, siomedigaethau, amgylchiadau, y gweithiai ewyllys a delfryd ynddynt, yn bethau y mae'n rhaid eu gadael i ddychymyg a phrofiad y darllenydd.
Y mae wedi bod yn ffasiwn ymhlith diwinyddion sydd â'u tuedd i wneud gwirionedd a'u cyfundrefn hwy yn un, i gondemnio'r syniad o weithrediad Ysbryd Duw ar y system nerfol. Diwinyddion, meddaf, yn fwy na meddylegwyr, y rhai sydd fel rheol yn fwy gwylaidd yn eu damcaniaethau ynghylch perthynas