Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/100

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymundeb cyson ag Ef Ei Hun drwy gyfrwng y corff, a chyfrannu nerth uwch—naturiol iddo bob dydd.

Gan na chefais waredigaeth uniongyrchol, euthum innau i edrych ar fy nioddefaint fel cerydd, ac yna fel moddion i ddatblygu fy ffydd a dwyn fy ewyllys i gytgord llawnach ag ewyllys Duw. Cyrhaeddodd yr ymgais hon ei huchafbwynt tua diwedd 1934, pryd y cefais un o'r ychydig brofiadau eithriadol a ddaeth i'm rhan—profiad digon hynod a gwerthfawr i'm gorfodi i geisio'i ddisgrifio pan oedd ei wahanol nodweddion eto'n glir yn fy meddwl. Aethai'r angina lawer yn waeth yn Nhachwedd a Rhagfyr, 1934, yn ddiau oherwydd pryder ynghylch ein merch sydd yn genhades yn Colombia. Yr oeddwn wedi clywed ei bod mewn enbydrwydd, wedi colli ei heiddo ond a oedd amdani, a'r offeiriaid pabaidd yn ceisio ei hamddifadu o do uwch ei phen, drwy fygwth yr Indiaid â barn os agorent ddrws eu tai iddi. Oherwydd ei chyflwyno i ofal Duw, nid oeddwn yn orbryderus yn ystod y dydd, ond ar ôl tuag awr o gwsg codai rhyw ofn o'm hisymwybod i'm deffroi ar gyfrif yr ing a gynhyrchai. Dyna'r amgylchiadau a arweiniodd i'r profiad a ddisgrifiwyd trannoeth fel hyn:

"Cafodd yr adnod, 'Achub fi, Arglwydd, canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid' (Salm lxix, 3) ystyr newydd i mi nos Sul a bore'r Llun (Rhag. 9—10) diwethaf. Yr oedd yr angina pectoris wedi bod yn dra phoenus y ddwy nos flaenorol, a pheri i mi ddeffroi ar ôl tuag awr o gwsg, ond y nos hon yr oedd yn waeth o lawer ac yn rhoddi i mi y teimlad o suddo mewn poen. Cofiais i un farw ryw nos yn ddiweddar yn un o hotels y dref gan flatulence yn rhwystro'i galon i guro (meddai'r meddyg), a