Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/101

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

theimlais am funud neu ddwy ias o ofn y creadur (animal fear) yn wyneb angau. Ond yn y man, meddai f'ysbryd, Nid ffydd yw hyn,' a cheisiais weddïo—yn ddigon dilun—yn y fan honno. Taflwyd darnau o adnodau ac emynau i mi, fel y teflir rhaffau i ddynion yn ymladd â'r tonnau, ond yr un a arhosodd yn fy ngafael oedd y pennill:

Mae Dy enw mor ardderchog,
Fel yng ngrym y storom gref,
Llaesa'r gwyntoedd, llaesa'r tonnau,
Dim ond im Ei enwi Ef.
Noddfa gadarn yw yn eitha' grym y dŵr.

'Noddfa gadarn yw yn eitha' grym y dŵr,' meddwn wedyn, a chael bod teimlad o oruchafiaeth yn fy meddiannu. Ond yr oedd yn rhaid dal gafael yn dynn, gan fod yr hen ofn am ddod yn ôl, a pheri tuedd i alw am help dyn. Cefais nerth i ddal gafael, ac yn fuan aeth y dŵr llwyd yn llif o risial, a'r boen yn hyfrydwch pur. Amgylchynwyd fi â chaniadau ymwared."

Nid hawdd disgrifio'r profiad, ond y nodwedd hynotaf ynddo i mi ydoedd, fod y poenau nid yn cael eu gyrru ymaith (fel ym mhulpud Bryngwenith) yn gymaint â'u trawsffurfio. Cefais brofiadau ysbrydol diriaethol o'r blaen, mewn goleuni ac ysbrydoliaeth, ac mewn nerth a adnewyddai gorff a meddwl ar gyfer gwasanaeth, ond dim fel hyn o gael fy nghodi yn y cwbl ohonof i fôr o wynfyd, a theimlo "llyncu yr hyn sydd farwol gan fywyd." Agos y cyfan a allai dyn ddweud—ynghanol teimladau cymysg o annheilyng-