Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/102

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dod a diolchgarwch—oedd, "Gogoniant !" "Glory, glory dwelleth in Emmanuel's land."

Gan gymaint gwerthfawredd anhraethadwy y profiad o'r tragwyddol, nid oedd eisiau deisyf" Gwna fi'n barod iawn i 'madael," gan y teimlwn mai" llawer iawn gwell" fuasai mynd. Ni ddatguddiwyd ei ystyr imi mewn perthynas ag ystad fy iechyd, os oedd iddo ystyr felly, ac ni fedrai fy nghyfeillion ddehongli ei ystyr; ni ellid disgwyl mwy oddi wrth feddyg na gofyn, "A ydych yn sicr mai nid breuddwyd ydoedd?" fel pe gallasai un ag y gorfyddai ei boen iddo godi ar ei eistedd i geisio'i liniaru freuddwydio! Beth bynnag am hynny, gwelais a dysgais bethau nad oeddynt yn glir i mi o'r blaen yn ad-lewyrch (afterglow) y profiad a barhaodd am rai oriau. Cefais olwg ar angau yn ei ddwy wedd, fel gelyn y bywyd naturiol—" y gelyn diwethaf"—ac fel gwas y bywyd ysbrydol—" angau sydd eiddoch chwi" (1 Cor. iii, 22); "y chwaer angau " (St. Francis). Yna, pan ddaeth ofn y nosweithiau dilynol yn ôl am foment, fflachiodd yr addewid "Nid ofni rhag dychryn nos" i'm meddwl mewn ystyr newydd sbon, yr hyn a braw fod esboniad profiad o eiriau'r Beibl yn annibynnol ar farn y critic.

Yr wyf wedi cadw at y ffeithiau syml yn y bennod hon heb nemor ddim damcanu. Yn wir, nid yw yn ddiogel gwneuthur datganiadau cyffredinol ar y mater. Tra dywaid Dr. Andrew Murray, er enghraifft, ein bod i gredu mai ewyllys Duw yw ein gwella, cedwir saint fel yr Abbé Huvelin mewn poenau ingol am flynyddoedd, a'u defnyddio yn ganolbwyntiau o nerthoedd ysbrydol er bendith i'r miloedd a ddaw atynt (gweler Pennod XII). Yn yr un modd, cyfeiria Hugh Redwood yn un o'i lyfrynnau at dair gwraig