Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/104

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XII

Y MAE cystudd sy'n gwneud y galon gnawd yn ddinerth â'i duedd i daflu'r dioddefydd a fedd ronyn o ffydd yn ôl ar Dduw. Y mae yn help effeithiol i'n dysgu i farw i ni ein hunain. I'm hadfyfyrdod (reflection) presennol, yr oedd fel pe llefarai Duw (Iob xxxiii, 19 ff.): "Yr wyt wedi siarad llawer am farw i ti dy hun, ac i fesur wedi ymdrechu gwneud, ond nid hyd at waed; yr wyt wedi dysgu digon ar y mater, ond y mae eisiau dy ddisgyblu ymhellach fel na bo i ti ddibynnu arnat dy hun, ond arnaf i."

Yn ystod y blynyddoedd hyn cefais brofiadau eraill a oedd yn edrych i'r un cyfeiriad, ac mor bell ag y gallaf weld, yn gweithio at yr un nod o ddarostwng myfiaeth, ac yn y diwedd ei ddileu.

Ar ôl y seibiant o chwe mis a gefais yn 1924, darganfûm yn raddol, drwy braw gofalus, fod gennyf ddigon o adnoddau nerfol i wneuthur canolbwyntiad y cymundeb boreol eto'n bosibl. Ond sylwais yn fuan fod yna wahaniaeth amlwg nad oedd yn gynnyrch unrhyw ddymuniad na gogwydd ymwybodol o'r eiddof i. Yn ychwanegol at y "bedydd " ysbrydol a gawswn am flynyddoedd, deuai imi brofiad o bersonoliaeth fawr arall—mwy ym mhob ystyr na'r eiddof i, mwy ei maint, mwy ei nerth, mwy grasol, mwy syml, urddasol yn cymryd meddiant o'm hymwybod, a'i darostwng iddi ei hun, eithr heb ei dileu, a pheri i mi gyffesu'n rhydd: "Nid gennyfi, O Arglwydd, y mae hawl i fod, ond gennyt Ti: bydd Di, gan hynny, yn