Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/105

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arglwydd yn y natur feidrol hon." Yn flaenorol, hyd yn oed ynghanol y bedyddiadau a gawn, fy ngweddi oedd Glanha fi, iacha fi, cryfha fi," ond yn awr symudwyd y pwyslais o'r "fi" i'r "Ti": "Ti sydd yn bod, gennyt Ti mae'r hawl i fod, ac nid wyf i am fod onid ynot Ti." Yr oedd " yr hunan trwblus hwn" yn ymgolli mewn Mwy na thyrfa o ddeugain mil." Cofier mai nid syniad oedd, ac nid delfryd, ond rialiti cyffelyb i'm personoliaeth fy hunan, gyda'r gwahaniaeth ei fod yn anhraethol fwy o rialiti. Ni chefais lawer yn hanes y saint i egluro'r profiad, ond cofiais yn naturiol am yr "undod" sy'n ffurfio gradd uchaf y profiad ysbrydol yn ôl y cyfrinwyr (unitive stage y Sais); am ymadrodd Ioan, " Chwi ynof fi, a mi ynoch chwi," ac ymadroddion tebyg gan Paul. Yn ddiweddarach daeth i'm cof, mewn adfyfyrdod ar y profiad, ateb Edward Caird i un o'i ddisgyblion pan ofynnodd yr olaf iddo a oedd yn credu mewn anfarwoldeb personol. "Yes," oedd yr ateb, "or something better." Nid esboniodd yn fwy manwl beth oedd y "rhywbeth gwell," ond teimlaf yn sicr na fyddai'n hystyried ystad anymwybodol yn well neu yn uwch, eithr yn is. Yr oedd llawer o'r sant yn Caird, ac ni synnwn ddeall mai profiad fel yr uchod, ond â gwedd fwy athronyddol iddo, oedd yn ei feddwl—profiad o golli cyfyngiadau daearol ymwybod eithr heb golli hunaniaeth.[1] O leiaf, yr oedd y boddhad o ymgolli mewn Un mwy a mwy perffaith i mi yn anhraethol "well" nag unrhyw fath na graddau o "hunan-foddhad y gallwn feddwl amdano. Ar yr un pryd daeth

  1. Yn un o'i lythyrau yn ei gyfrol goffa, fe ddywaid Caird, "The more life loses itself—in one sense—in the universal the more it becomes individualised." Tud. 187, gwêl hefyd tud. 197.