i mi deimlad newydd o'm gwendid a'm distadledd yn ymyl y bersonoliaeth aruchel honno, a gwelais yn fwy clir fy angen am gymeriad cyfaddas i'r tragwyddol, un a fyddai'n ymateb i ofynion cyfathrach â Duw fel yr ymetyb athrylith ddisgybledig cerddor i bob gwawr a chysgod ym myd cerdd. Gwelais yn fwy clir na chynt mor ddiddeall yw maentumio bod diwinyddiaeth gyfundrefnol yn anghenraid crefydd i'w chadw rhag mynd yn fater o deimlad direol ac annibynadwy. Nid oes gan y golygiad hwn, y mae'n amlwg, le i Dduw byw. Nid teimlad, mae'n wir, ac nid rheswm chwaith, yw organ y bywyd ysbrydol, ond y ffydd sydd yn gweled yr Anweledig, yn mentro ar ei chanfyddiadau, a thrwy ufudd—dod ac adwaith amgylchiadau yn eu troi yn ddeunydd cymeriad cyfaddas i'r tragwyddol.
Yn ddilynol i hyn, wrth edrych i mewn i mi fy hun, canfûm fod llawer o'r hen bethau wedi myned heibio, neu ynteu wedi eu gwneuthur yn newydd. Cefais fod y llyfr" a fu gyhyd o amser yng nghefn fy meddwl wedi mynd. Nid yw yn flin gennyf am hyn. Yr oedd cymaint o brofiad ag a gefais i o Dduw ac o fyd " ffydd a gwybodaeth" yn ddigon i fychanu (dwarf) pob ymgais i'w osod allan mewn geiriau. Y peth mawr i mi yn awr, a'r " un peth angenrheidiol oedd byw iddo ("cynyddu ohonom iddo ef ym mhob peth "). Ar raddfa fechan, cefais weledigaeth a gwerthfawrogiad o fawredd a gwerthfawredd anhraethol yr ysbrydol tebyg i eiddo Thomas Aquinas, a barodd iddo ateb i gyfaill a geisiai ganddo barhau i ysgrifennu: "Ni allaf ysgrifennu rhagor: yr wyf wedi gweld pethau sy'n gwneud fy holl ysgrifeniadau megis gwellt."