Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/108

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sylweddoli mai "cul yw y ffordd" hefyd. Diau ei bod yn wir fy mod am fod yn rhywun " wedi mynd i mewn drwy y porth, heb weld bod y ffordd yn arwain i gwbl ddiddymaint myfiaeth ac felly i ehangder y gwir fywyd. Yr oeddwn hefyd ar ôl darllen Yr Ornest Ysbrydol, Perffeithrwydd Cristnogol, etc., am gadw hunan—ddisgyblaeth yn fy nwylo fy hunan, am "weithio allan fy iechydwriaeth fy hunan" heb gofio ei bod i fod yn fynegiad o waith Duw ynof: Canys Duw sydd yn gweithio ynoch."

Er bod y Curé a Huvelin wedi cyrraedd dyfnderau o hunan-ddilead ac uchterau o wasanaeth ysbrydol a dueddai i ddigalonni dyn, yr oeddynt o leiaf yn dangos mai ffordd y groes yw ffordd y goron o hyd. Gwnâi hanes y ddau i mi gywilyddio oblegid fy mharodrwydd i gwyno a throi'n llwfr yn wyneb pob dioddefaint bach. Dywaid ei fywgraffydd am y Curé "fod ei enaid mewn undeb agosach â Duw nag â'i gorff ei hun." Am y rheswm hwn bu fyw y deugain mlynedd olaf o'i oes ar y nesaf i ddim o fwyd, a chwsg, a gorffwys, er mwyn gwasanaethu y miloedd a dyrrai ato am tua deunaw awr bob dydd. Yr oedd Huvelin, yntau, yn gorfod gorwedd mewn ystafell dywyll oherwydd dioddef gan gout yn ei lygaid a'i ymennydd, ond yn y fan honno—yng ngeiriau Von Hügel—"yn gwasanaethu eneidiau ag awdurdod goruchel cariad hunan—anghofus, a dwyn goleuni a phurdeb a thangnefedd i dorfeydd dirif o eneidiau trwblus a thrist a phechadurus," ac yn wahanol i Newman—yr hwn a dueddai i dristáu y sawl a ddeuai ato—yn pelydru llawenydd ac iechydwriaeth o'i gylch.

Yr oedd dirgelwch eu cryfder yn eu ffydd sicr yn Nuw, a'u galluogai i orfoleddu mewn dioddefaint.