Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/109

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Y mae Duw am eich santeiddio drwy amynedd," meddai'r Curé wrth glerigwr a ddaethai ato am wellhad; " rhaid inni weld pethau yn Nuw, ac ewyllysio yr hyn a ewyllysia Ef." "Ewch allan ohonoch eich hunan," meddai Huvelin wrth y Dduges Bedford, a aethai i geisio'i gyfarwyddyd, " ac yn ôl i anfeidroldeb Duw."

Y mae bywydau o'r math yma yn ymddangos yn eithafol nid yn unig i'r rhai a gais gyfyngu gwaith i bedair awr y dydd, ond hefyd i'r crefyddwr anianol na wêl onid ochr marw i hunan a dim o ochr byw i Dduw: "Eich bywyd sydd yn guddiedig gyda Christ yn Nuw." 'Rwy'n cofio cwrdd ag ysgolfeistr adeg y diwygiad a godai ei ddwylo mewn ofn a dychryn yn wyneb gofynion Imitatio Christi arno: un bach yng Nghrist oedd ef eto, heb archwaeth at ddim tu hwnt i fwyd llwy.

Cysyllta Huvelin bwys mawr â'r teip o gymeriad a gais Duw ffurfio ynom, a'n bod i'n rhoi ein hunain yn gwbl yn Ei ddwylo Ef. Ni olyga hyn nad ydym ni'n gwneud dim, gan fod hyn yn ffurf uchel ar weithgarwch enaid. Cynghora Von Hügel i ganiatáu i eraill beri dioddefaint iddo, ond na ddylai ef ei hun beri dioddefaint i neb; ei fod, serch hynny, i osgoi achosion cythrudd (irritation) megis darllen cyfnodolion crefyddol a mynychu pwyllgorau a chynadleddau, gan na fyddai hynny'n dygymod â'r teip o gymeriad a fynnai Duw ffurfio ynddo ef. Credaf fod doethineb uchel yn hyn. *** Wrth edrych yn ôl ar "droeon yr yrfa "—cyn cyrraedd bryniau Caersalem—llenwir fi â theimladau