Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/11

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysbryd a chorff. Rhaid i Ysbryd Duw, fe ymddengys, gyfyngu ei weithrediad i diriogaeth syniadau haniaethol! Y mae eu safle yn sawru yn gryf o'r golygiad gnosticaidd am berthynas Duw â mater, a natur uwchraddol y deall. Ceisiais i ddisgrifio fy mhrofiad yn hollol syml heb dreio damcanu yn ei gylch. Yr hyn a wn yw mai symud yn nes i mewn at graidd rialiti a wneuthum wrth basio o fyd fy syniadau haniaethol i diriogaeth profiad diriaethol. Ni wn beth yw adweithiad y meddwl diwinyddol i'r esboniad gwyddonol diweddar ar natur mater.

Ar ôl peth petruster y cynhwysir pennod xi. yn y llyfr. Mor ddwfn ac ystyfnig yw ein rhesymoliaeth gynhenid fel y mae fy adweithiad cyntaf i ddisgrifiadau o'r fath yn un o amheuaeth. Dim ond fy ngwybodaeth uniongyrchol o'r ffeithiau ynghŷd â'r ffaith bellach i mi ysgrifennu'r hanes ymhen diwrnod neu ddau a hawlia iddo le ymysg profiadau'r daith. Gall ymddangos i rywai fod yna ddisgyniad amlwg o fyd iechydwriaeth enaid i iseldir iechyd corfforol. I'm tyb i, esgyn a wnawn pan ddygir y corff yn fwy dan lywodraeth yr ysbryd-y mae yr olaf yn ehangu ei lywodraeth. Fe gofiwn hefyd fod y cyfrinwyr yn cyfrif yr ystad o rodio ar y bannau (illuminative stage) yn llai perffaith na'r ystad o undod â rialiti diriaethol, ac yn iswasanaethgar iddi.

Rhoddir y darlun i gwrdd â dymuniad cyfeillion.

E. KERI EVANS.