Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/110

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymysg o ddiolchgarwch ac annheilyngdod. Cyfyd y teimlad olaf yn fwyaf arbennig o'm perthynas â'r weinidogaeth: nid wyf yn cofio cael y teimlad o gwbl mewn cadair athroniaeth. Gan fod fy nghyfeillion anianol yn cyfrif mai "dod i lawr" a wneuthum drwy adael cadair athroniaeth mewn prifysgol am y weinidogaeth, y mae arnaf flys gosod ar gof a chadw yn y fan hon y peth tebycafi ddatguddiad gwrthrychol a gefais erioed—i'm dysgu y gall "dod i lawr" yn fydol olygu "mynd i fyny " yn ysbrydol. Pan oeddwn yn cynnal cenhadaeth ym Mangor yn 1918, euthum i gael golwg ar y colegdy newydd, a gwnaeth ei braffter a'i urddas ysblennydd y fath argraff arnaf fel y dywedais rhyngof a mi fy hun, "Wel, wel, yma y gallaswn innau fod ac nid yn weinidog mewn capel bach yng Nghaerfyrddin," h.y., yn hollol ddifeddwl aeth yr adeilad gwych yn arwyddlun o ogoniant y bywyd academig, a'r capel bach yn symbol o fywyd crefydd. Troais i ffwrdd yn siomedig, a gweled mynyddoedd Eryri yn codi draw, ac yna meddai rhywun wrthyf mor glir â phe byddai'n dweud geiriau, eithr heb un llais, "Y pinaclau acw, ac nid capel bach y Priordy, yw'r arwyddluniau gorau o'r gwirioneddau yr wyt ti wedi dy alw i'w pregethu, y sydd â'u gogoniant gymaint yn fwy nag unrhyw ogoniant academig ag yw'r mynyddoedd acw na'r adeilad hwn, er gwyched ef." Diflannodd y siom, a syrthiodd y gwahanol werthoedd i'w lle iawn yn fy ymwybod; euthum innau i ffwrdd yn fwy na bodlon, yn wir, yn ddiolchgar am fy mreintiau mawr.

Diau fod gogoniant y bywyd academig wedi fy meddiannu unwaith yn fwy llwyr nag a feddyliwn, a bod y gwerthfawrogiad hwnnw ohono wedi codi i