Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/111

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyny i'm hymwybod am eiliad dan ddylanwad yr olwg ar wychter y colegdy, a cheisio adfeddiannu'r sedd a gollasai. Wrth gwrs, yr oedd y gwirionedd o ragoriaeth anhraethol Crist ar "y pethau oedd yn elw i mi" ymhlyg yn fy nghydsyniad â datganiad Paul, "Iesu yw yr Arglwydd," yng nghyfarfodydd Drummond, ac eilwaith yn ysgoldy Heol Awst; ond dyweder a fynner, bu y fath argraff ag a wnaed arnaf drwy gyfrwng dameg oedd â grym awdurdod gwrthrychol y tu cefn iddi, yn foddion i wasgu'r gwirionedd yn ddyfnach i'm hymwybod, a'i wneud yn rhan ohono, na'm hymgyflwyniad blaenorol, er, yn ddiau, na buasai mor effeithiol heb hwnnw.

Fel y cafodd yr Iesu Ei eni mewn preseb, ac ymwrthod â mawredd bydol er Ei demtio gan ddiafol, ymddengys bod absenoldeb rhwysg allanol yn angenrheidiol i brofi gwirioneddolrwydd teyrngarwch Ei ddilynwyr iddo; ac y mae'n drist sylwi fel y mae diafol o hyd yn llwyddo i ddwyn gwahanol fathau o wagogoniant i mewn i'r Eglwys, a'u dal o flaen llygaid anianol fel y pethau rhagorol i ymgyrraedd atynt. Ac y mae hyn yn wir nid yn unig y tu mewn i'r Eglwys Babaidd ac Eglwys Loegr, ond mewn Anghydffurfiaeth; oblegid, meddwn, os na allwn geisio ysblander cardinal neu esgob, gallwn fynd i mewn am enwogrwydd pregethwrol a'n galw yn dywysogion y pulpud, ac am ogoniant swydd a theitl academig a'n cyfarch yn y marchnadoedd a'n galw gan ddynion "Rabbi, Rabbi." Fe weddai inni gofio mai categori hollol baganaidd yw "anrhydedd " y sonnir cymaint amdano yn ein cyhoeddiadau crefyddol. Nid yn y pethau, wrth gwrs, mae'r drwg, ond ynom ni sydd yn eu gwneud yn eilunod. "Pa fodd y gellwch chwi