Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/112

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan eich gilydd, a heb geisio y gogoniant sydd oddi wrth yr unig Dduw ?"

Ped edrychem ar bethau o safbwynt teyrnas Dduw fe welem fod gwasanaethu y rhai a gaiff etifeddu iechydwriaeth " y rhagorfraint fwyaf goruchel. "It is a privilege," meddai Dr. Pierson wrthyf un tro, to meet those with whom we shall be spending the eternal ages." Y mae eu gwasanaethu, yn sicr, yn uwch braint fyth, er mai ychydig o'i bobl, gallem feddwl, a ddisgwyliai Samuel Rutherford gwrdd ar ddeheulaw'r Tad:

Oh! if one soul from Anworth
Meet me at God's right hand,
Then Heaven will be two Heavens
In Emmanuel's land.

Y gwir yw nad yw " yr oes ddrwg bresennol " yn prisio gwerthoedd ysbrydol pur, a bod ymadawiad oddi wrth Dduw byw a'i ogoniant" cwbl arall," a gwrthodaf i fel un dderbyn barn y sawl a berthyn iddi. Nid oes hawl gan Gristion i fod yn siomedig ar fyd na bywyd sydd wedi ei ddwyn, ar waethaf pob diffyg a rhwystr, i feddiant o wir ystyr a gwirionedd bodolaeth. Y mae y neb a gwyna ar ei safle am na chafodd yr anrhydedd hwn neu arall yn dangos ei fod yn perthyn i'r oes hon a'i delfrydau o hunan—gais a hunan—ogoniant. Y praw o lwyddiant gwir yn yr oes bresennol yw ein bod ar bwys ei chyfleusterau ac ar waethaf ei rhwystrau wedi dod i berthynas iawn â gofynion yr oes a ddaw, i'r hon y dengys Crist y ffordd.