Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/113

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae llinellau Pantycelyn,

 
Boed fy mywyd oll yn ddiolch,
Dim ond diolch yw fy lle,

yn mynegi fy nheimlad innau, sef diolch am ddawn Duw yn y bywyd naturiol ynddo ei hun ac fel cyfle i ddod o hyd i'w ddawn anhraethol mewn bywyd tragwyddol; am y breintiau a'r cyfleusterau a ddaeth i'm rhan, fel ffynhonnau dyfroedd yn yr anialwch, i wneuthur fy mhererindod yn fwy diddorol na'm haeddiant; am hyd yn oed y galluoedd a ymddangosai yn elyniaethus ond a fu yn foddion i'm taflu yn ôl ar Dduw; ac yn bennaf oll, am Ei arweiniad anweledig Ef, nas gwerthfawrogwn ar y pryd, drwy argyfyngau a threialon i'm dwyn yn llwyddiannus i olwg pen y daith heb golli'r ffordd. Yr wyf wedi cael fy rhan o'm "curo gan y gwyntoedd" a'm "maeddu gan y don" a'm " dryllio yn erbyn creigiau," heb allu dweud, "blinais ar y ddaear hon" am fy mod mewn cyswllt ag amcan sy'n gwneud y bydoedd yn un a bywyd yn werth ei fyw hyd yn oed ymysg ffaeleddau anianol henaint.

Dywedais mewn pennod flaenorol (Pennod IV) nad oedd yn flin gennyf na ddaeth y brwdfrydedd barddonol yn ôl. Rhag i neb gamddeall a thybio fy mod yn dibrisio art, hoffwn esbonio mai "dod yn ôl " yn ei grym llywodraethol a olygwn, a mynd rhyngof â'r Mwy a ddaeth i'm rhan. Y mae y gwmnïaeth â Natur a'r ymhyfrydiad yn ei phrydferthwch, a'm mwynhad yng ngweithiau y beirdd sydd yn gallu eu mynegi mewn geiriau wedi cyfoethogi fy mywyd yn anhraethol ar hyd y blynyddoedd, ac yn parhau i wneud. Yn