Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/114

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr un modd y mae athroniaeth a gweithiau athronyddion sy'n ymdrin â bywyd yn ei gyfoeth a'i gwmpas a'i amcan uchaf—nid â haniaethau diwaed—yn parhau'n diddorol o hyd ar waethaf gwywdra arferol hen dyddiau. Eithr uwchlaw pob gwybod y sydd ag elfen o ddamcanu yn ei amharu, y mae adnabod Duw y sydd heb elfen o'r fath, ond a olyga ein bod ni nid yn unig yn gydnaws, ond hefyd yn gydrywiol ag Ef. Dyma ragorfraint fwyaf goruchel bywyd yn y byd hwn a phob byd—rhagorfraint hefyd sydd yn bosiblrwydd i bob un ac yn eiddo i bob un yng Nghrist, yr hyn a braw fod y bydysawd yn gyfiawn, am fod y gorau ynddo yn agored i bawb, neu ynteu yn dibynnu ar amod y gall pob un gydymffurfio â hi.

Yr wyf yn edrych ers blynyddoedd bellach ar fywyd ar y ddaear fel dechrau bywyd yn unig, a'i werth a'i lwyddiant i'w benderfynu nid o'r tu mewn iddo ei hunan, ond yn ei berthynas â'r bywyd cyfan, ac i'r graddau y mae yn ffitio i mewn i hwnnw, ac yn teimlo'n sicr mai nid y "rhai sydd lwyddiannus yn y byd" sydd o angenrheidrwydd yn llwyddiannus yn y bydysawd.

Mi feddyliais cawsai f'Arglwydd
Ei eni mewn brenhinol blas
Nes im weld Ei wir ogoniant
Ei wirionedd Ef a'i ras:
Yna gwelais yn y preseb gefndir gwell.

Tybiais, ac Efe yn gwybod '
Iddo ddod i lawr o'r nef,
Y gorchmynnai i'w ddisgyblion
Blygu a'i addoli Ef,
Ond fe'i cefais ar Ei liniau'n golchi eu traed.