Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

FY MHERERINDOD
YSBRYDOL


I

GOSODIR y teitl "Fy Mhererindod Ysbrydol" uwchben yr ysgrifau hyn am ei fod erbyn hyn yn weddol gyfarwydd i'r darllenydd. Ond hoffwn wneuthur dau sylw mewn perthynas â'i ddefnyddiad gennyf cyn myned ymhellach. (1) Yr wyf am iddo gau allan y dyb mai sgrifennu atgofion a wnaf. Y mae gennyf lawer o atgofion cysylltiedig ag amserau a lleoedd, yn ogystal ag â phersonau, y sydd yn ddiddorol i mi a rhai o'm cyfeillion; ond yr amcan yn yr ysgrifau hyn yw rhoddi hanes profiadau a all fod yn ddiddorol a buddiol i bererinion eraill ar y "ffordd dragwyddol." Ceisiais wneud yr atgofion yn iswasanaethgar i'r amcan hwn. (2) Wrth ddarllen ymlaen, fe wêl y darllenydd fy mod yn defnyddio'r gair "ysbrydol" yn ei ystyr eang, lle y saif am holl diriogaethau'r meddwl-fel y defnyddir ef gan athronyddion megis Hegel neu Eucken; ond hefyd, ac yn fwyaf neilltuol, yn ei ystyr cyfyng, fel yn y Testament Newydd, lle y cyferbynnir ef ag "eneidiol" (anianol), fel yn 1 Cor. ii, 14, 15.

Y mae y Dr. Scott Lidgett, yn yr hanes a rydd o'i "Bererindod Ysbrydol" ef yn y Christian World