Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(Hydref-Tachwedd, 1935), yn alluog i ddweud ei fod yn argyhoeddedig iddo weithredu ym mhob argyfwng yn ei fywyd dan arweiniad dwyfol ("I have acted in each crisis under what I am convinced has been Divine Guidance "). Y mae hyn yn ddatganiad hynod i'w wneud gan neb pwy bynnag. Ychydig, yn sicr, yw nifer y rhai a all ei wneud, ac nid wyf i yn y nifer hynny. Y mwyaf a all y mwyafrif o saint ei ddweud—mor bell ag y gwn i eu hanes y tu mewn a'r tu allan i'r Beibl, yw, fod yr Arweinydd Dwyfol wedi eu dwyn yn ôl "o'u holl grwydriadau fföl" i lwybr Ei fwriadau Ef. Dyna fy mhrofiad innau. Yn wir, ni allaf ddweud fy mod wedi dewis o gwbl gyda golwg ar brif symudiadau fy mywyd, ond wedi fy nghario iddynt fel llong o flaen y gwynt. Os iawn galw hynny yn "arweiniaid dwyfol," nid oes gennyf wrthwynebiad; ond nid oedd dewisiad rhwng dau gwrs penodol. Am y rheswm hwn, byddai "Mordaith Pererin"—pererin â'i long yn cael ei chario yn awr ar un llifeiriant ac yna ar un arall, nes dod i mewn i'r rhedlif iawn, yn ffigur mwy cymwys. Bûm yn morio am flynyddoedd, er enghraifft, ar lif barddoniaeth fel pe na bai dim arall yn bod yn amcan bywyd, ac yna ar lif athroniaeth, gyda llawn cymaint o hwyl a diddordeb, nes dod i mewn i redlif canol hanes dyn yng nghrefydd yr Arglwydd Iesu Grist. Byddai athronydd, efallai, yn dweud fy mod yn y cyfnod cyntaf yn mynd ar ôl y prydferth, yn yr ail yn ceisio'r gwir, ac yn olaf y da a'r santaidd. Y mae'n amlwg, fodd bynnag, fod y ddau ffigur yn annigonol, gan y gall y tri hyn gyd—hanfodi yn yr un ymwybyddiaeth. Eto y mae'r gair "llifeiriant" yn un priodol i osod allan eu gallu llywodraethol yn ystod yr amser y maent